Biliau Nwy a Thrydan
Cymorth i Aelwydydd
Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol , mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan Help for Households sy’n rhoi cefnogaeth a chyngor ariannol i gyd mewn un man.
Ewch i weld pa gefnogaeth gyda chostau byw allai fod ar gael i chi helpforhouseholds.campaign.gov.uk
Taliad Tanwydd y Gaeaf
Gall pensiynwyr sy'n hawlio rhai budd-daliadau, fel Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol, gael hyd at £300 tuag at eu biliau gwresogi yn y gaeaf. I gael gwybod mwy, ewch i www.gov.uk/winter-fuel-payment
Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Gwresogi Domestig
Cynllun rhad ac am ddim a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer preswylwyr Torfaen sydd ar incwm isel, yn derbyn budd-daliadau, sydd wedi bod mewn dyled ynni neu sydd â chyflwr iechyd sy’n gwaethygu wrth fyw mewn cartref oer. Mae ychwanegyn yn cael ei rhoi mewn systemau gwres canolog gwlyb neu foeleri i wella effeithlonrwydd ac yn gostwng biliau o hyd at ryw £168 y flwyddyn.
Mae'n agored i berchnogion tai a phobl sy'n rhentu'n breifat sydd â system wresogi wlyb neu foeler. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 1 Tachwedd 2024.I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch gary.meale@torfaen.gov.uk
Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr
Mae Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS) ar agor i gartrefi yng Nghymru ym mandiau treth y cyngor A i E gyda gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o D neu is.
Drwy'r cynllun gallech dderbyn mesurau inswleiddio megis insiwleiddio'r atig, waliau ceudod neu waliau solet. Yn dibynnu ar y mesur a argymhellir, gallai'r gosodiad fod yn rhad ac am ddim ar gyfer mesurau rhatach neu â chymhorthdal mawr ar gyfer mesurau drutach.
Gallwch wirio eich cymhwysedd a gwneud cais trwy ymweld â Gwneud cais am gymorth gan Gynllun Inswleiddio Prydain Fawr - GOV.UK neu cysylltwch â'ch cyflenwr ynni yn uniongyrchol i wneud ymholiad.
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Gwerth hyd at £140. Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni am fwy o wybodaeth neu ewch i wefan Llywodraeth y DU www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme
Taliad tywydd oer
£25 yr wythnos ar gyfer pob cyfnod 7 diwrnod o dywydd oer os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau. Am fwy o wybodaeth, ewch i coldweatherpayments.dwp.gov.uk
Canolfannau Cynnes
Am fanylion mannau cynnes am ddim yn agos i chi, ewch i wefan Cysylltu Torfaen a chwiliwch am “canolfan gynnes”
Cyngor
Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i gychwyn.
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Sefydliad nid-er-elw sy’n rhoi cyngor diduedd am ddim i’ch helpu i arbed ynni ac ymladd newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon deuocsid o’ch cartref. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni neu ffoniwch 0800 512 012.
Partneriaeth Leol Cyngor ar Ynni (LEAP)
Mae gwasanaeth Partneriaeth Cyngor Ynni Lleol (LEAP) yn cynnig cyngor ar ynni a mesurau arbed ynni am ddim. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un gydag incwm yr aelwyd o dan £31,000 neu sy’n derbyn amrywiaeth o fudd-daliadau. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch deborah.woodrow@ageconnectstorfaen.org neu ffoniwch 01495 769264.
Cymru Gynnes
Gwasanaeth cynhwysfawr a diduedd sy’n helpu pobl i leihau eu biliau ynni trwy newid cyflenwyr, grantiau inswleiddio a defnydd mwy clyfar. Ffoniwch Gyngor ar Bopeth ar 01633 876121 i siarad â Chynghorydd Ynni.
Nyth Cymru
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu i leihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.
Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.
Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i’r wefan llyw.cymru/nyth
Mesuryddion Clyfar
Gallan nhw helpu i fonitro eich defnydd o ynni a chael arbedion posibl yn eich cartref. Cysylltwch â’ch cyflenwr am fwy o wybodaeth.
Mesuryddion Blaendalu
Os ydych chi’n cael trafferth rhoi taliadau ar fesurydd, cynghorir chi i gysylltu â’ch cyflenwr ynni. Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan Cyngor ar Bopeth.
ECO4 Flex
dych chi’n gymwys i wneud cais am gymorth i wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref drwy Gynllun ECO4 Flex.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/10/2024
Nôl i’r Brig