Cynllun ECO4 Flex
Mae ECO4 Flex yn fecanwaith ar gyfer atgyfeirio aelwydydd sy’n rhan o'r cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) ehangach. Mae’n fenter gan lywodraeth y DU sy'n anelu at leihau allyriadau carbon a thaclo tlodi tanwydd trwy wella effeithlonrwydd ynni aelwydydd.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid bod incwm gros eich aelwyd yn £31,000 neu’n is, neu rhaid bod gennych gyflwr iechyd cymwys y mae byw mewn cartref oer yn cael effaith niweidiol arno, er enghraifft clefyd cardiofasgwlaidd, anadlol neu imiwnoataliedig neu symudedd cyfyngedig. Gweler y datganiad o fwriad am feini prawf llawn cymhwystra.
I weld a yw'ch cartref yn gymwys, dilynwch y camau hyn:
- Rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n byw mewn eiddo rydych yn ei rentu’n breifat. Os ydych chi'n rhentu'n breifat, bydd angen caniatâd eich landlord arnoch i wneud cais.
- Darganfyddwch beth yw sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich eiddo – gallwch wneud hyn am ddim trwy wefan Llywodraeth y DU. Os oes gan eich eiddo sgôr EPC o E neu is, gallai fod yn gymwys. Gallwch wneud cais o hyd os nad oes gan eich eiddo EPC.
- Rhaid bod gennych foeler nwy sy'n foeler cefn nad yw'n cyddwyso, neu foeler sy’n sefyll ar y llawr (â thanc dŵr poeth), neu sydd o leiaf 18 oed.
Pan fydd aelwydydd yn gymwys, gall y mesurau a ariennir fel arfer gynnwys:
- Inswleiddio ceudod neu wal solet
- Inswleiddio’r llofft neu’r to
- Gwaith atal drafftiau neu ffenestri a drysau newydd
- Boeler wedi'i uwchraddio
- Rheolyddion gwresogi
- Paneli solar
- Mesurau Gwresogi Adnewyddadwy e.e. Pympiau Gwres o’r Aer
Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys i gael cyllid ECO, gallwch wneud cais trwy gysylltu ag un o'r contractwyr cymeradwy sydd wedi'u cofrestru gyda Cymru Gynnes.
Gallwch gysylltu â mwy nag un gosodwr.
Am ragor o wybodaeth am ECO4 Flex, cysylltwch ag eco4@warmwales.org.uk
Os nad ydych yn gymwys i gael ECO4 Flex, ewch i'n tudalen Costau Ynni Costau Byw i weld pa grantiau arbed ynni a chymorth ariannol sydd ar gael.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2025
Nôl i’r Brig