Addasiadau i'r Cartref

Os ydych chi (neu rywun rydych chi'n gofalu amdano) yn anabl, mae'n bosibl y gallech chi neu nhw fod yn gymwys i gael addasiadau i'r cartref a chyfleusterau i'ch galluogi chi neu'r person anabl i barhau i fyw yno.

Addasiad yw gwaith a wneir ar gartref plentyn neu oedolyn anabl i:

  • ddileu neu oresgyn rhwystrau sy'n ei atal rhag gwneud defnydd llawn o'i gartref
  • gwella'r cymorth i gael mynediad i'r cartref  

Mae mân addasiadau'n costio llai na £1,000 ac maent yn cynnwys pethau fel canllawiau, rampiau trothwy, systemau mynediad a rhai mathau o waith plymwr/trydanol. 

Gellir cymhwyso Grantiau Cost Isel at ddiben addasiadau sy'n costio rhwng £1,000 a £8,000 a gallant gynnwys pethau fel cawod â mynediad lefel, rampiau ar lwybr neu gadeiriau esgyn.

Fel arfer, mae addasiadau mawr yn costio rhwng £10,000 a £36,000 ac maent yn gwella mynediad i'ch cartref ac yn darparu cyfleusterau priodol, e.e. gwneud drysau'n lletach, gosod rampiau neu ychwanegu ystafell ymolchi i lawr y grisiau. Fe allech fod yn gymwys i gael Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl tuag at gost y gwaith. Mae'n rhaid i chi wneud cais am y grant hwn cyn i chi ddechrau unrhyw waith – ni fyddwch yn cael grant fel arfer os ydych yn dechrau ar y gwaith cyn i'r cyngor gymeradwyo'r cais. 

I gael mwy o wybodaeth am addasiadau i'r cartref, gweler ein taflen Addasiadau Tai.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/07/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig