Draeniau

Beth i'w wneud ynglŷn â draen neu garthffos wedi ei rwystro?

Enw'r beipen sy'n mynd allan o'ch tŷ yw draen.  Os yw'r draen hwn yn ymuno ag eiddo arall, mae'r beipen yn dod yn garthffos o'r pwynt hwnnw ymlaen.

Mae cyfrifoldeb dros ddad-flocio neu drwsio rhannau o garthffosiaeth frwnt sy'n broblem yn dibynnu a yw'r garthffos yn un breifat neu'n un gyhoeddus.

Carthffosydd cyhoeddus yw'r rhai sydd wedi eu mabwysiadu gan yr ymgymerwr carthffosiaeth Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW). Os oes gennych chi broblem sy'n ymwneud â charthffos gyhoeddus dylech gysylltu â DCWW ar  0800 085 3968 ac fe ddylen nhw ymdrin ag ef.

Os ydych yn denant i Gymdeithas Tai, ac mae gennych broblem draeniau, dylech gysylltu â'ch landlord.

Mae carthffosydd a adeiladwyd cyn 1af Hydref 1937 yn cael eu galw'n 'garthffosydd Adran 24’ ac maen nhw'n eithriad i'r arfer.  Maent yn cyfateb i'r disgrifiad o garthffosydd preifat ond mewn gwirionedd maent yn gyhoeddus ac felly'n cael eu rheoli gan DCWW.

Carthffosydd Preifat

Mae carthffos breifat yn garthffos sydd heb ei mabwysiadu gan yr ymgymerwr carthffosiaeth.  Felly cyfrifoldeb y rhai sy'n rhannu'r garthffos hyd at bwynt y difrod neu'r rhwystr yw clirio'r rhwystr neu drwsio'r difrod.  Nid yw'r ffaith bod carthffos o dan ffordd gyhoeddus yn golygu ei bod yn garthffos gyhoeddus.  I'r gwrthwyneb - mae rhai carthffosydd cyhoeddus o fewn tir eiddo preifat.

Gall draeniau o ddau eiddo ymuno a ffurfio carthffos breifat, ac yna gall redeg am bellter cyn cael ei chysylltu â'r garthffos gyhoeddus.  Os fydd nam neu rwystr yn digwydd yn y system garthffosiaeth breifat bydd perchnogion y ddau eiddo yn gyfrifol am ddatrys y broblem.  Noder nad yw ffin yr eiddo yn dynodi diwedd eich cyfrifoldeb.

Rôl yr awdurdod lleol

Gall staff Tîm Iechyd y Cyhoedd benderfynu ar faint y broblem, sawl eiddo sy'n rhan o'r broblem a'r gweithredu sydd ei angen i ddatrys y broblem. Mae hyn fel arfer yn golygu gweithredu anffurfliol neu weithredu ffurfiol.

Gweithredu anffurfiol

Bydd staff Tîm Iechyd y Cyhoedd yn ymdrechu i hysbysu defnyddwyr pa weithredu priodol sydd ei angen, fel defnyddio ffyn i glirio peipiau'n bersonol neu gyda help cymydog neu trwy gysylltu â chontractwr draeniau.

Gweithredu ffurfiol

Byddai Hysbysiad dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn ei gwneud yn ofynnol eich bod chi, ynghyd ag unrhyw bobl eraill sy'n cael eu heffeithio, dynnu rhwystrau o'r garthffos breifat o fewn 48 awr.  Bydd yr Hysbysiad neu'r llythyr eglurhaol yn dynodi'r holl bartïon eraill sy'n berthnasol. Os na chydymffurfir â'r Hysbysiad, bydd y Cyngor yn cwblhau'r gwaith ac yn codi tâl arnoch am gost y gwaith ac unrhyw ffioedd gweinyddol.

Byddai hysbysiad dan Adran 59 o Ddeddf Adeiladau 1984 yn ei gwneud yn ofynnol eich bod chi, ynghyd ag unrhyw bobl eraill sy'n cael eu heffeithio yn trwsio rhannau o garthffos breifat. Bydd yr Hysbysiad neu'r llythyr eglurhaol yn dynodi'r holl bartïon eraill sy'n berthnasol. Os na chydymffurfir â'r Hysbysiad, bydd y Cyngor yn cwblhau'r gwaith ac yn codi tâl arnoch am gost y gwaith ac unrhyw ffioedd gweinyddol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Housing Safety and Environmental Protection Team

Ffôn: 01633 647622

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig