Costau bwyd
Cymorth ariannol
Cronfa Cymorth Gofalwyr
Gall Gofalwyr Di-dâl wneud cais nawr am grantiau o hyd at £500 ar gyfer eitemau hanfodol, gan gynnwys talebau archfarchnadoedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i Cronfa Cymorth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru neu, cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk
Talebau bwyd
Gallwch gael talebau gan Gyngor ar Bopeth, Y Ganolfan Byd Gwaith, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol y gellir eu defnyddio yn eich banc bwyd lleol.
Banciau bwyd
I gael mwy o wybodaeth am eich banc bwyd lleol, ewch i wefan TVA Wales.
Prydau ysgol am ddim
Os ydych yn derbyn budd-daliadau efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Am fwy o wybodaeth ewch i ardal Prydau Ysgol am Ddim ar y wefan.
Tasty not Wasty CIC
Mae Tasty not Wasty yn grŵp cymunedol ddim-er-elw gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd drwy gael cynnyrch a nwyddau gan y prif archfarchnadoedd er mwyn eu hailddosbarthu drwy eu caffi a’u cegin gymunedol.
Ar agor ar ddydd Mawrth-ddydd Sadwrn 10am-11am yn Eglwys Fethodistaidd Llanyrafon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.facebook.com/TastyNotWastyCIC
Siop Groser Eglwys Victory
Sefydlwyd ‘Grocery Store by Victory’ gan Eglwys Victory i gynorthwyo pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Mae’n wasanaeth cymorth fforddiadwy i bobl Cwmbrân, lle rydych yn talu £4 am werth £20 o nwyddau, gan gynnwys ffrwythau/llysiau ffres.
Mae angen i gwsmeriaid dalu tanysgrifiad blwyddyn o £5 a byddant wedi eu cyfyngu i ddau sesiwn siopa yr wythnos. Mae gan y siop ddetholiad gwych o gynnyrch ffres a hanfodion bob dydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.facebook.com/VictoryGroceryStore
SustainABLE - Able Radio
Mae siop fwyd SustainABLE Able Radio yn gwerthu ffrwythau a llysiau cost isel sydd wedi ei dyfu’n lleol gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae’r siop wedi ei lleoli yn Nant Bran ar Upper Cwmbran Road ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener bob wythnos o 10am i hanner dydd ac o 1pm i 2.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth am SustainABLE, ewch i www.facebook.com/AbleRadio
Cyngor
Tîm budd-daliadau Cyngor Torfaen
Cysylltwch â ni drwy e-bost ar benefits@torfaen.gov.uk neu ffoniwch y Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 766430 neu 01495 766570. Neu fe allwch alw heibio un o’n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid.
Creu Cymunedau Cryf
I gael cyngor ynghylch sut i atal caledi yn y dyfodol ewch i wefan Building Resilient Communities.
Cyngor ar Bopeth
I gael gwybodaeth am dalebau bwyd a banciau bwyd, ewch i www.citizensadvice.org.uk
Help i Aelwydydd (gov.uk)
Os ydych yn cael anhawster gyda chostau byw cynyddol, mae Llywodraeth y DU wedi creu’r wefan Help for Households sy’n rhoi’r cymorth a’r cyngor ariannol sydd ar gael i gyd yn yr un lle - https://helpforhouseholds.campaign.gov.uk/
Y Bartneriaeth Gwydnwch Bwyd
Ei nod yw cynyddu faint o fwyd cynaliadwy sydd yn y fwrdeistref a dod o hyd i atebion hirdymor i dlodi bwyd, gan gynnwys prosiectau tyfu cymunedol a rhwydweithiau dosbarthu bwyd. Dysgwch mwy am y Bartneriaeth Gwydnwch Bwyd.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/02/2024
Nôl i’r Brig