Tai a digartrefedd
Os ydych chi’n cael trafferth talu taliadau morgais, mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth a chyngor:
Os ydych chi’n denant mewn cartref cymdeithasol ac yn cael trafferth gyda rhent, cysylltwch â’ch landlord yn y gymdeithas tai cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi’n denant preifat, gallwch gael cymorth a chyngor yma - Tai Sector Preifat
Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
I bobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ond sy’n cael trafferth talu rhent, mae mwy o wybodaeth yn ardal Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ein gwefan.
Gostyngiad Treth y Cyngor
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu os oes incwm isel gennych, gallech fod yn gymwys am ostyngiad. Am fwy o wybodaeth, ewch i ardal Gostyngiadau a Disgownt ein gwefan
Grant Cymorth Tai
Rhaglen a ariennir gan lywodraeth sy’n defnyddio dulliau o ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd, sefydlogi sefyllfa dai person a’u hannog i fyw’n annibynnol. Am fwy o wybodaeth, ewch i Grant Cymorth Tai.
Cyngor
Gwasanaeth galw heibio
Ydych chi’n poeni am eich sefyllfa o gylch tai. Gallwch siarad â rhywun yn ein gwasanaethau galw heibio. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma - Digartrefedd.
Atebion Tai Torfaen
Os ydych chi mewn perygl o gael eich troi allan, gallwch gysylltu hefyd â thîm Atebion Tai Cyngor Torfaen
Ffôn: 01495 742303 / 742301 neu e-bostiwch: housingsolutions@torfaen.gov.uk
Shelter Cymru
Am gyngor ar rentu, digartrefedd neu gymorth am ddyled. Os oes angen cyngor brys arnoch chi, ffoniwch Ein llinell gymorth brys: 08000 495 495, rhwng 9.00am – 2.30pm dydd Llun i ddydd Gwener. Neu os yw’n llai brys, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar y we am ddim, 12.30pm – 4pm dydd Llun i ddydd Gwener
Am fanylion am gynghorwyr lleol, cliciwch yma sheltercymru.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2022
Nôl i’r Brig