Cyngor ar Arian a Dyled

Gwiriwr budd-daliadau

Gwelwch pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt gyda theclyn Llywodraeth y DU: www.gov.uk/check-benefits-financial-support 

Credyd Cynhwysol

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, cliciwch yma www.gov.uk/universal-credit/how-to-claim

Tîm Budd-daliadau Cyngor Torfaen

Am wybodaeth am ostyngiadau treth y cyngor, taliadau tai dewisol, prydiau ysgol am ddim, grant datblygiad disgyblion ac unrhyw grant tanwydd y gaeaf, credydau pensiwn. E-bostiwch benefits@torfaen.gov.uk neu ffoniwch y Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 766430. Am amserau agor, ewch i Canolfannau Cwsmeriaid a'r Ganolfan Cyswllt Ffôn

Lwfans Gofalwyr

Telir Lwfans Gofalwyr i bobl sy’n gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos, sy’n gofalu ar rywun sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol ac sy’n ennill dim mwy na £128 yr wythnos. Am fwy o wybodaeth, ewch i ardal cefnogaeth ariannol i ofalwyr ein gwefan.

Cymorth costau byw

Am fanylion sefydliadau lleol sy’n rhoi cymorth a chyngor brys, ewch i wefan Cysylltu Torfaen a chwiliwch am “costau byw”

Os oes angen cymorth brys gyda chostau bwyd, ewch i ‘Costau Bwyd

Am gymorth a chyngor am filiau cyfleustodau, ewch i ‘Biliau Nwy a thrydan’ a ‘Biliau Dŵr

Os ydych chi’n pryderu am daliadau morgais neu rent, neu os ydych mewn perygl o ddigartrefedd, ewch i ‘Tai a Digartrefedd

Am gymorth gyda chostau ysgol neu ofal plant, ewch i Gostau Ysgol a Gofal Plant

Cyngor ar ddyled

Advicelink Cymru

Gwasanaeth Cyngor a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio helpu pobl sydd â’r angen mwyaf o wasanaethau cyngor, yn arbennig y rheiny na fyddent fel arfer yn chwilio am gyngor.

Ffôn: 0800 702 2020 Dydd Llun i Ddydd Gwener o 9am tan 5pm

Cyngor ar Bopeth

Cyngor ar-lein o gylch budd-daliadau, costau byw, dyled a rheoli arian.

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk/wales/ 

National DebtLine 

Cyngor a chefnogaeth am ddim i bobl a phryderon am arian a phroblemau dyled

Gwefan: www.nationaldebtline.org 
Ffôn: 0808 808 4000 

Step Change 

Gwasanaethau ar-lein 24/7 www.stepchange.org neu 0800 1381111 Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 8pm a Dydd Sadwrn 8am i 4pm

Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig