Hawliwch help gyda hanfodion ysgol

Trosolwg

Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn mewn addysg rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 11, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol.

Enw swyddogol y grant yw grant Hanfodion Ysgol.

Efallai eich bod yn adnabod y grant fel grant Datblygu Disgyblion, grant Mynediad Datblygu Disgyblion (GDD) neu'r grant Gwisg Ysgol.

Faint sydd ar gael

Ar gyfer blwyddyn ysgol 2023 i 2024, mae'r grant yn:

  • £125 ar gyfer plant sy'n gymwys
  • £200 ar gyfer plant blwyddyn 7

Sut y gallwch chi ei ddefnyddio

Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am:

  • gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
  • dillad ac offer chwaraeon
  • offer ar gyfer gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, dysgu awyr agored a chlybiau ar ôl ysgol
  • offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol
  • Offer a deunyddiau ar gyfer pynciau a chyrsiau newydd

Meini prawf

Gallech fod yn gymwys os ydych yn riant neu warcheidwad i blentyn mewn addysg o dosbarth derbyn i blwyddyn 11, ac yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal incwm (Income support)
  • Lwfans ceisio gwaith (Jobseeker's Allowance)
  • Lwfans cymorth a chyflogaeth (Employment and Support Allowance)
  • Credyd Treth Plentyn (Child Tax Credit)
  • Credyd Pensiwn (Pension Credit)
  • Credyd Cynhwysol (Universal Credit)
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw Incwm o fudd-daliadau.

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF).

Mae pob plentyn mewn gofal yn gymwys.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:

Gwneud cais

Gallwch wneud cais o'r 1 Gorffennaf 2023 i 31 Mai 2024.

I wneud cais, byddwch angen:

  • manylion cyswllt
  • Ene ysgol eich plentyn
  • rhif yswiriant gwladol (os ar gael)
  • manylion banc (os yn berthnasol)

Dim ond unwaith y plentyn y flwyddyn y gallwch hawlio.

Gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol

Manylion cyswllt

Am gymorth pellach gyda'r cais neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni:

Nid yw disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio, neu’r rheini sy’n rhan o gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Bawb, yn gymwys i dderbyn y cyllid hwn. Trowch at yr adran Prydau Ysgol Am Ddim ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Budd-daliadau

Ffôn: 01495 742291 neu 742377

Nôl i’r Brig