Cludiant i'r Ysgol a'r Coleg

Cludiant Ysgol a Choleg (heblaw am Addysg Arbennig)

Yn gyffredinol, mae cludiant am ddim wedi'i gyfyngu i ddisgyblion sy'n mynychu ysgol eu dalgylch ac sy'n byw'r pellter cerdded angenrheidiol o'r ysgol.

Disgyblion oed cynradd (Derbyn i Flwyddyn 6)

Darperir cludiant am ddim os yw'r disgybl yn byw mwy na 2 filltir o'r ysgol ddalgylch.

Disgyblion oed Uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11)

Darperir cludiant am ddim os yw'r disgybl yn byw mwy na 3 milltir o'r ysgol ddalgylch.

Mae cludiant am ddim ar gael i'r ysgol eglwys agosaf yn unol â'r meini prawf pellter a grybwyllir uchod ac ar yr amod bod rhieni plentyn a/neu eu plentyn yn glynu at ffydd enwadol yr ysgol dan sylw. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl, fodd bynnag, i'w gwneud yn ofynnol i rieni gyflwyno tystiolaeth ddogfennol cyn penderfynu ar eu hawl

Gwneud cais am Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol

Cludiant Consesiynol

Mae'n bosib y gall disgyblion lenwi seddi sbâr ar fysiau ysgol fel consesiwn dros dro er nad ydynt yn bodloni'r meini prawf y cyfeirir atynt uchod. Nid yw'r Awdurdod yn codi unrhyw dâl ar hyn o bryd am ddarparu cludiant mewn achosion o'r fath. Efallai y bydd angen tynnu consesiynau yn ôl ar fyr rybudd ac ni chânt eu darparu ar gyfer cludiant ar wasanaethau bws lleol. Mae angen gwneud ceisiadau am gludiant rhatach bob blwyddyn academaidd a derbynnir ceisiadau o 1 Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Sylwch na fydd cludiant rhatach yn cael ei ddyrannu tan ganol mis Medi bob blwyddyn.

Gwneud cais am Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol - Consesiynol

Disgyblion Ôl-16 oed

Darperir cludiant am ddim ar gyfer disgyblion / myfyrwyr ôl-16 hefyd os ydynt yn byw mwy na 3 milltir o gampws y coleg ddalgylch neu'r ysgol ddalgylch. Bydd y ddarpariaeth naill ai ar ffurf Grant Teithio (£48.00 y tymor ar hyn o bryd) neu docyn bws.

Gwneud cais am Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol – Ôl-16

Mae'n bosib y darperir cludiant dan gontract i fyfyrwyr ôl-16 sydd ag anghenion dysgu gwahanol.

Gwneud cais am Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol – Ôl-16 ADY

Os nad ydych yn dymuno derbyn cludiant ar ôl iddo gael ei ddyfarnu, ar ôl symud cyfeiriad neu os yw eich gofynion yn newid, mae’n ofynnol i chi rhoi gwybod ar unwaith yn ysgrifenedig i’r Uned Cludiant Integredig trwy e-bostio itu@torfaen.gov.uk.

Cludiant Meithrin

Dylai rhieni fod yn ymwybodol nad yw'r Awdurdod yn darparu cludiant i blant oed meithrin.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch ag aelod o’r tîm Cludiant ar 01495 766919.

Ymddygiad disgyblion ar Gludiant Ysgol/Coleg

Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhlentyn yn camymddwyn ar gludiant ysgol?

Weithiau bydd angen i'r Cyngor, ar y cyd â'r Ysgol, osod sancsiynau ar ddisgyblion sy'n methu â chydymffurfio â safon ymddygiad derbyniol ar gludiant ysgol.

Mae goblygiadau i ddisgyblion sy'n camymddwyn yn eang ac yn cynnwys oedi i ddisgyblion eraill oherwydd efallai y bydd yn rhaid tynnu'r cerbyd oddi ar y ffordd oherwydd y difrod a'r aflonyddu a achosir.

Pa gamau a gymerir yn erbyn fy mhlentyn ar gyfer unrhyw achosion o gamymddwyn ar gludiant ysgol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno menter o'r enw Cod Ymddygiad Teithio Cymru Gyfan. Mae'r Cod hwn yn annog teithio mwy diogel ac mae'n nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ddisgyblion wrth deithio i'w hysgol neu goleg. Os yw disgyblion yn camymddwyn wrth deithio ar gludiant ysgol ac os nad ydynt yn dilyn y Cod Ymddygiad Teithio, gellir cymryd camau. Yn dilyn ymchwiliad gellir dileu'r hawl i gludiant am gyfnod penodol yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r digwyddiad.

Beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid gwahardd fy mhlentyn o gludiant ysgol?

Fel rheol, os oes angen gwahardd disgybl o gludiant ysgol, hysbysir rhieni yn ysgrifenedig, gan nodi'r cyfnod a'r rheswm dros y gwaharddiad. Bydd gofyn i rieni wneud trefniadau cludiant eraill yn ystod y cyfnod gwahardd i sicrhau bod y disgybl yn parhau i fynychu'r ysgol, oni bai bod y disgybl hefyd wedi derbyn llythyr gwahardd o'r ysgol.

Os yw'r digwyddiad yn ddigon difrifol i gyfaddawdu ar ddiogelwch y cerbyd a disgyblion eraill sy'n teithio, gall y gwaharddiad o gludiant ysgol ddod i rym ar unwaith.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Cludiant

Ffôn: 01495 766919

Nôl i’r Brig