Cymorth â Chostau Gofal Plant

Mae'r adran hon yn rhoi arweiniad cyffredinol ar y cymorth y gallech ei gael â chostau gofal plant.

A allaf gael cymorth tuag at gostau gofal plant?

Os ydych yn talu costau gofal plant, efallai y gallem anwybyddu hyd at £175 (ar gyfer un plentyn) a £300 (ar gyfer dau blentyn neu fwy) o'ch enillion pan fyddwn yn cyfrifo eich hawl i gael Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.

I fod yn gymwys i gael cymorth â'ch costau gofal plant, rhaid i chi fod:

  • yn bâr lle mae'r ddau ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy;
  • yn rhiant unigol sy'n gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy; neu
  • yn bâr lle mae un ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy a'r llall yn 'anabl' neu yn yr ysbyty neu'r carchar.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth â'ch costau gofal plant os ydych yn absennol o'r gwaith dros dro oherwydd salwch neu os ydych ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.

Pa gostau gofal plant sy'n gymwys?

Rhaid i'r plentyn fod dan 15 oed, neu dan 16 oed os yw'n anabl. Rhaid i'w (g)ofal gael ei ddarparu gan un o'r canlynol:

  • gwarchodwr plant cofrestredig;
  • meithrinfa neu gynllun chwarae cofrestredig;
  • cynllun y tu allan i oriau ysgol sy'n cael ei gynnal gan ddarparwr cymeradwy. Bydd y cynllun y tu allan i oriau ysgol yn gallu dweud wrthych a ydynt wedi'u cymeradwyo ai peidio;
  • clwb neu gynllun y tu allan i oriau ysgol sy'n cael ei ddarparu gan ysgol ar dir yr ysgol neu gan awdurdod lleol;
  • cynllun gofal plant ar dir y Goron (tir y mae Ei Mawrhydi neu un o adrannau'r llywodraeth yn berchen arno) lle nad oes angen cofrestru; neu
  • sefydliad sydd wedi'i achredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan y rheoliadau Credyd Treth. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen Cymorth â Chostau Gofal Plant

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen roi cyngor i rieni a gofalwyr ar gymorth ychwanegol sydd ar gael â chostau gofal plant. Yn ogystal, gallant roi gwybodaeth rad ac am ddim i rieni a gofalwyr am wasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw yn Nhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Customer Care Team

Ffôn: 01495 766430

Ebost: revs&bens@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig