Gordaliadau - Budd-dal Tai
Gordaliad yw pan fyddwch wedi cael mwy o Fudd-dal Tai nag y mae gennych hawl i'w dderbyn.
Pam y mae gordaliadau'n digwydd?
Efallai y byddwn wedi cael gwybodaeth sy'n golygu bod rhaid i ni adolygu faint o fudd-dal rydych chi'n ei dderbyn. Os yw'r newid yn golygu bod swm y budd-dal yn mynd i lawr a'n bod eisoes wedi talu'r swm uwch i chi, bydd hyn yn arwain at ordaliad.
Maent yn digwydd am nifer o resymau. Dyma rai enghreifftiau:
- Efallai eich bod wedi anghofio dweud wrthym fod eich incwm wedi cynyddu, er enghraifft, os ydych wedi cael codiad cyflog neu os yw swm eich dyfarniad bensiwn wedi newid.
- Efallai bod rhywun wedi symud i mewn neu allan o'ch cartref.
- Efallai eich bod wedi symud o'ch cartref a heb ddweud wrthym.
- Efallai eich bod wedi dechrau gweithio neu wedi newid eich swydd.
- Os oes oedolion eraill yn byw gyda chi, efallai bod eu hamgylchiadau wedi newid.
Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newid a pheidio â dibynnu ar unrhyw un arall i wneud hynny ar eich rhan. Hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y newid i'ch amgylchiadau, rhaid i chi roi gwybod i ni o hyd a pheidio â gadael i DWP ddweud wrthym.
Sut byddaf yn gwybod os byddaf wedi cael fy ngordalu?
Byddwn yn anfon llythyr hysbysu atoch yn rhoi manylion llawn am y gordaliad. Bydd y llythyr hysbysu hwn yn dweud wrthych pam y mae'r gordaliad wedi digwydd, swm y gordaliad a'r cyfnod. Bydd hefyd yn dweud wrthych sut y byddwn yn adennill y gordaliad a beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â'r gordaliad.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/07/2026
Nôl i’r Brig