Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau

Sylwer os gwelwch yn dda: Dyma wasanaeth a rennir gan drigolion Torfaen a Sir Fynwy

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi o oedran gweithio, ar incwm isel ac angen cymorth gyda chostau rhentu, dylech gyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Am ragor o wybodaeth ewch i Credyd Cynhwysol: Sut i hawlio - GOV.UK (yn agor mewn tab newydd).

Gallwch barhau i hawlio Budd-dal Tai os ydych chi a'ch partner (os oes gennych un) wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu os ydych chi'n aros mewn lloches, hostel neu rai mathau o dai â chymorth neu lety dros dro.

Budd-dal Tai

Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau. Dim ond os yw un o'r canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:

  • Rydych chi a'ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Rydych chi'n aros mewn lloches, hostel neu rai mathau o dai â chymorth neu lety dros dro

I fedru gwneud cai am Fudd-dal Tai, rhaid eich bod:

  • Yn atebol i dalu’r rhent, a
  • Bod yn breswyl yn yr eiddo rydych yn gwneud cais yn ei gylch.

Fel arfer, ni fedrwch gael Budd-dal Tai os:

  • Oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cynilion, buddsoddiadau ac eiddo rhyngoch chi a’ch partner (oni ydych yn derbyn Credyd Pensiwn Gwarantedig).
  • Ydych yn rhentu gan berthynas preswyl.
  • Ydych chi’n rhentu gan gynbartner.
  • Ydych chi’n gyfrifol am blentyn eich landlord.
  • Na fedrwch gael cymorth gan gronfeydd cyhoeddus oherwydd eich statws ymfudo.
  • Ydych chi’n fyfyriwr llawn-amser, heb blant nac unrhyw anabledd.
Gwnewch gais am fudd-dal tai (yn agor mewn tab newydd)

Am ragor o wybodaeth ewch i Budd-dal Tai: Cymhwystra - GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Gall cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor eich helpu i dalu’r Dreth Gyngor os ydych ar incwm isel. Os oes gennych hawl i Ostyngiad yn y Dreth Gyngor, bydd eich bil Treth Cyngor yn is.

I fedru hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, rhaid i chi:

  • Fod ar incwm isel, a
  • Bod yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor

Fel rheol, ni fedrwch gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor os:

  • Oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cynilion, buddsoddiadau ac eiddo rhyngoch chi a’ch partner (oni ydych yn derbyn Credyd Pensiwn Gwarantedig).

Gallwch wneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor os ydych chi'n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol neu drwy lenwi ein ffurflen gais ar-lein.

Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor (ar sail incwm) (yn agor mewn tab newydd)

Fel arall, cysylltwch â’r Tîm Ceisiadau Newydd.

Budd-dal Tai - Y Tîm Ceisiadau Newydd