Absenoldeb dros dro o'ch cartref
Telir Budd-daliadau Tai (BT) fel arfer tra eich bod yn byw yn yr eiddo yn unig. Fodd bynnag, gellir talu budd-dal tai mewn amgylchiadau arbennig tra eich bod i ffwrdd o’r cartref.
Mae hyd yr amser y gallwch barhau i hawlio Budd-dal Tai yn ystod absenoldeb yn dibynnu ar y rheswm yr ydych i ffwrdd.
- Os ydych yn absennol, mae’r mwyafrif o bobl yn medru hawlio BT am yr 13 wythnos gyntaf yn unig
- Mewn amgylchiadau arbennig, fe allwch hawlio BT tra eich bod yn absennol o’r cartref i fyny at 26 neu 52 wythnos. Gofynnwch i ni am fwy o wybodaeth.
O 28 Gorffennaf 2016 os yw eich absenoldeb y tu allan i 'Brydain Fawr' gallwch fel arfer hawlio Budd-dal Tai am uchafswm o 4 wythnos. Noder - nid yw Prydain Fawr yn cynnwys Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.
Ym mhob achos, rhaid bodloni'r amodau cymhwyso sylfaenol islaw bob tro::
- rhaid eich bod yn bwriadu dychwelyd i fyw yn yr eiddo ar ôl i’r absenoldeb ddod i ben
- rhaid i chi (neu eich landlord – os yw’n berthnasol) beidio ag is-osod eich eiddo tra eich bod i ffwrdd
- rhaid i gyfnod eich absenoldeb fod yn debygol o fod yn fwy na 4, 13, 26 neu 52 wythnos fel y bo’n briodol ar ddechrau’r absenoldeb
Os ydych yn gwybod eich bod yn debygol o fod i ffwrdd o'ch cartref am lawer hirach nag y mae'r Cynllun Budd-dal Tai yn ei ganiatáu, ni ellir fel rheol dalu Budd-dal Tai.
Os ydych yn dymuno hawlio Budd-dal Tai o dan y rheolau absenoldeb dros dro, rhaid i chi gadarnhau yn ysgrifenedig y rheswm dros eich absenoldeb, eich cyfeiriad yn ystod y cyfnod o absenoldeb a'r cyfnod y byddwch yn absennol o'ch cartref.
Gellir ystyried absenoldeb dros dro hefyd dan y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.
Os ydych am wybod mwy am y rheolau absenoldeb dros dro gallwch anfon e-bost atom ar benefits@torfaen.gov.uk, ffonio’r Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 766430 neu 01495 766570 neu fel arall fe allwch alw yn un o’n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig