Datganiad o Fuddiant Aelodau
Rhaid i gynghorwyr ddatgan unrhyw fudd personol sydd ganddynt wrth drafod neu wneud penderfyniadau ynghylch materion y cyngor. Dan rhai amgylchiadau mae'n ofynnol iddynt adael yr ystafell gyfarfod pan fydd eitem benodol yn cael ei thrafod. Mae manylion pellach ynglŷn â hyn yng Nghyfansoddiad y Cyngor, Atodiad 1 - Cod Ymddygiad y Cynghorwyr.
Mae copi o'r buddiannau personol a gafodd eu datgan gan yr aelodau yng nghyfarfodydd y cyngor yn cael eu cynnwys mewn Cofrestr Buddiannau Personol a gafodd eu datgan yng Nghyfarfodydd y Cyngor a gynhelir gan Dîm Gwasanaethau Democrataidd ac Aelodau'r Cyngor ac ar gael ar gais oddi wrthynt ar 01495 766057.
Ar wahân, o dan God Ymddygiad Aelodau, mae'n ofynnol i aelodau gofrestru buddiannau ariannol ac eraill fel y'u diffinnir ym mharagraff 10(2)(a) o'r Cod Ymddygiad â'r Swyddog Monitro. Mae Cofrestr Buddiannau Aelodau 2022 - 2027 ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio trwy apwyntiad trwy gysylltu â'r Swyddog Monitro ar 01495 742660.
Members may apply to the Council’s Ethics and Standards Committee for a dispensation to speak and/or vote on matters where they have an interest in a particular item of Council business – a prejudicial interest. Details of dispensations granted will be shown either through the minutes of that Committee or by reference to the attached Register of Dispensations Granted to Members and Appendices to that Register.
Yn ogystal a hyn, rhaid i aelodau hysbysu'r Swyddog Monitro ynghylch unrhyw rhodd neu letygarwch sydd yn werth mwy na £25. Mae Cofrestr Rhoddion neu Letygarwch 2022 - 2027 ar gael yma neu mae copi papur ar gael i'w weld drwy apwyntiad, drwy gysylltu â'r Swyddog Monitro ar 01495 742660
Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2024
Nôl i’r Brig