Trosolwg a Chraffu

Mae trosolwg a chraffu yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn ffordd agored a thryloyw ac mae'n darparu gwiriadau a mesurau annibynnol a diduedd ar gyfer y sefydliad a'r cyhoedd. Mae'r swyddogaeth trosolwg a chraffu hefyd yn cynnwys ystod eang o aelodau o bob plaid wleidyddol a ward ddaearyddol er mwyn dod â phrofiad a safbwyntiau ehangach i weithgareddau datblygu polisi a gwella gwasanaethau'r Cyngor.

Trosolwg a chraffu yw un o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol y gall cynghorydd anweithredol gyfrannu at gyfeiriad y Cyngor. Ni ddylid ei ystyried yn swyddogaeth lai pwysig na'r Cabinet sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'n rhan gydradd ac allweddol o'r broses gwneud penderfyniadau, ac mae'n hollbwysig er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd.

Mae'n bwysig deall bod gwahaniaeth eglur rhwng cyfrifoldebau'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r rhai sy'n gyfrifol am eu dal i gyfrif. Ni all Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor, ond gallant sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am wneud hynny yn gwneud penderfyniadau da yn y ffordd gywir a'u bod yn gwbl ystyriol o'r farn ehangach.

I gael mwy o wybodaeth am sut mae Trosolwg a Chraffu yn gweithio yn Nhorfaen, lawrlwythwch gopi o'r Arweiniad i Drosolwg a Chraffu.

Bob blwyddyn, mae pob un o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn datblygu Rhaglen Waith y mae'n canolbwyntio arni yn y flwyddyn i ddod. I weld rhaglen waith holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor ar gyfer 2023/24, cliciwch ar y dolenni isod:

Mae adroddiadau ac agendau diweddaraf Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor ar gael i’w lawr lwytho o’r Cyfeiriadur Pwyllgorau. Chwilio cofnodion, agendau ac adroddiadau yma.

Gallwch wylio ein cyfarfodydd y Pwyllgor Arolygu a Chraffu wrth iddynt ddigwydd.

Gallwch hefyd wylio cyfarfodydd wedi eu recordio unrhyw le neu adeg sy'n gyfleus i chi. Cliciwch ar y siaradwyr rydych am weld, fel eich cynghorwyr lleol, neu dewiswch y penderfyniad neu'r eitem ar yr agenda yr hoffech wylio yn cael ei trafod ar Sianel YouTube Democratiaeth a Chraffu y Cyngor.

Bob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad blynyddol yn amlinellu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r swyddogaeth craffu. Gellir lawrlwytho’r Adroddiad Craffu Blynyddol diweddaraf yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Gwella

Ffôn: 01495 766298

E-bost: improvement@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig