Awgrymu eitem i'w chraffu

A oes unrhyw awgrymiadau gennych ynghylch materion i’w cynnwys yn rhaglenni gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol? Os felly, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Canllawiau ar gyfer cyflwyno eitem i’w chraffu:

  • Nid system gwynion yw craffu ac nid yw’n delio â materion, achwyniadau na meysydd pryder unigolion
  • Rhaid bod y testun yr ydych yn awgrymu ei adolygu yn fater o wir bryder i’r cyhoedd, sy’n effeithio ar grŵp p bobl sydd naill ai’n byw yn Nhorfaen neu’n gweithio yn Nhorfaen
  • Ni all fod yn fater cynllunio nac yn fater arall y mae un arall o bwyllgorau’r Cyngor yn delio ag ef, ac eithrio ble mae’r mater yn ymwneud â’r broses
  • Caiff pob cais ei ystyried a gwneir penderfyniad ynghylch y camau mwyaf priodol i’w cymryd. Ni allwn warantu y bydd ceisiadau’n arwain at weithgarwch craffu, er, fe fyddwn yn dweud wrthych pa gamau a gymerwyd
Diwygiwyd Diwethaf: 06/08/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Gwelliant

Ffôn: 01495 742547

E-bost: improvement@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig