Beth mae Cynghorwyr yn ei wneud?

Eich cynghorydd yw'r unigolyn a etholir bob 4 blynedd i gynrychioli eich ardal leol.

Gallant helpu os ydych yn anfodlon ar un o wasanaethau'r cyngor drwy eich cynghori neu eich cyfeirio at rywun a all helpu i ddatrys eich problem, ac weithiau gallant fynd i'r afael â'r achos ar eich rhan.

Fel arweinwyr cymunedol, maent yn cyflwyno cynigion i wella eu ward, a allai gynnwys dod â gwahanol grwpiau cymunedol ynghyd i ddatblygu achos dros newid.

Mae gan bob cynghorydd ddisgrifiad rôl a manyleb person sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau a'u swyddogaethau a'r nodweddion a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Gellir lawrlwytho copi o'r Fframwaith Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person Aelodau yma.

Mae'r gyfres o ddisgrifiadau rôl a manylebau person yn ymdrin â'r rolau canlynol:

  • Aelod Etholedig
  • Arweinydd
  • Aelod y Cabinet
  • Cadeirydd y Cyngor
  • Cadeirydd pwyllgor rheoleiddiol
  • Aelod o bwyllgor rheoleiddiol
  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
  • Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu
  • Arweinydd yr Wrthblaid
  • Hyrwyddwr Aelodau

Mae rhai cynghorwyr yn cyflawni mwy nag un rôl (e.e. gallwch fod yn aelod etholedig ac yn aelod o bwyllgor craffu a'r Maer).

I weld pa rolau y mae eich cynghorydd lleol yn eu cyflawni, edrychwch ar y Cyfeiriadur Cynghorwyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig