Strategaeth ailgylchu a gwastraff 2025-2030
Mae’r strategaeth ailgylchu a gwastraff yn nodi sut rydym yn anelu at ailgylchu 70% drwy:
- Wella gwasanaethau ailgylchu – mae hyn yn cynnwys ehangu'r gwasanaeth i fflatiau nad oes ganddynt wasanaeth wrth ymyl y ffordd ar hyn o bryd
- Cynyddu ailgylchu - mae hyn yn cynnwys cynyddu'r ystod o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd, yn cynnwys eitemau trydanol bach yn 2025 a haenen lapio plastig o 2027
- Gwella seilwaith i gynyddu'r amrywiaeth o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu
- Sicrhau bod gwasanaethau ailgylchu busnesau sy’n cydymffurfio yn cynnwys deunyddiau ychwanegol o 2026
- Hyrwyddo lleihau gwastraff ac ailddefnyddio
- Datgarboneiddio'r gwasanaeth
Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys Siarter Cwsmeriaid, sy'n nodi'r safon gwasanaeth y gall cwsmeriaid ddisgwyl i ni ei darparu mewn perthynas â'ch casgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Codi'r Gyfradd
Rydym wedi ymrwymo i annog trigolion i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu a gwaredu ar eu gwastraff yn gywir.
Mae'r Strategaeth Ailgylchu a Gwastraff yn nodi sut y gall preswylwyr helpu'r gwasanaeth, gan gynnwys:
- Rhoi eich bin ailgylchu â chlawr porffor allan erbyn 6am ar eich diwrnod casglu
- Mynd â'ch cynwysyddion yn ôl i’r tŷ ar ôl iddynt gael eu casglu. Gwybod beth sy’n mynd i mewn i ba gynhwysydd
- Peidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 4pm
- Gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi'r eitemau cywir yn y bagiau a'r bocsys cywir
Os oes angen i chi roi gwybod am broblem gyda'ch casgliadau ailgylchu a gwastraff, ewch i’r adran Rhoi gwybod ar y wefan neu ffoniwch wasanaethau cwsmeriaid ar 01495 762200.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/10/2025
Nôl i’r Brig