Gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu â chymorth

Mae gwasanaeth casglu ailgylchu/ bin â chlawr porffor â chymorth ar gael am ddim, ar yr amod eich bod yn bodloni meini prawf penodol.

Os nad oes ganddynt rywun i helpu, gall trigolion sy’n methu rhoi eu heitemau ailgylchu a’i bin â chlawr porffor allan i gael eu casglu, fod yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn.

A ydw i'n gymwys?

Mae'r gwasanaeth ar gael i'r bobl ganlynol yn unig:

  • sydd wedi'u cofrestru'n anabl; neu
  • sydd â chyflwr meddygol corfforol sy'n golygu na allant symud eu gwastraff; ac
  • nad oes unrhyw un abl yn byw yn yr eiddo.

Requesting the assisted recycling and waste collection service

Gallwch wneud cais am gasgliad ailgylchu a gwastraff â chymorth neu gallwch gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200.

Er mwyn cael eich ystyried am y gwasanaeth hwn, bydd angen i ni drefnu i ymweld â'ch cartref i gadarnhau eich bod yn gymwys.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig