Casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu masnachol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rhedeg gwasanaeth casglu gwastraff masnachol i fusnesau lleol. Mae'n rhaid i fusnesau wneud yn siwr y caiff eu gwastraff masnachol ei waredu'n gywir mewn perthynas â'r 'Ddyletswydd o Ofal' o dan y Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd. Rhaid defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff cofrestredig. 

Os yw eich busnes yn cynhyrchu gwastraff, rhaid i chi sicrhau eich bod yn atal gwastraff rhag dianc trwy ei roi mewn cynhwysydd priodol. 

Mae amrywiaeth o ddulliau casglu ar gael, gan gynnwys:

  • sachau mewn rholiau o 50;
  • biniau safonol 240 litr ag olwynion; a 
  • biniau mwy 1100 litr.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu defnyddiau ailgylchu sych ar wahân yn wythnosol (gwydr, plastig, caniau a phapur) ac opsiynau i ailgylchu cardbord.

Mae gwasanaeth casglu lluosog o fwy nag un casgliad yr wythnos ar gael hefyd, ond mae'n rhaid trefnu hyn ymlaen llaw. Codir tâl am bob casgliad ac mae hynny'n seiliedig ar ofynion unigol cwsmeriaid. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Masnachol, gan gynnwys pris yn seiliedig ar eich cais penodol chi, ffoniwch y Cyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu e-bost businessdirect@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig