Archebu Sachau Sbwriel Masnachol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gweithredu gwasanaeth Casglu Gwastraff Masnachol i fusnesau lleol. Mae’n ofynnol i fusnesau sicrhau bod eu gwastraff masnachol yn cael ei waredu’n iawn mewn perthynas â’r ‘Dyletswydd Gofal’ o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd. Rhaid defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff cofrestredig.

Os ydym yn casglu eich gwastraff masnachol, gallwch archebu sachau sbwriel isod.

Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw’.

SYLWER: Os nad yw’r ffurflen isod yn ymddangos, ac os ydych wedi dewis 'cytuno' ar y faner cwcis, cliciwch ‘diweddaru’ i ail lwytho’r dudalen. Os wnaethoch chi glicio 'anghytuno' ar y faner cwcis, yn anffodus ni fydd y ffurflen yn llwytho. A fyddech cystal â golygu eich dewis gan ddefnyddio’r eicon preifatrwydd ar waelod y sgrin neu ddefnyddio’r fersiwn arall o’r ffurflen

Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2023 Nôl i’r Brig