Eitemau swmpus o'r cartref
Yn gyntaf, a fyddech cystal ag ystyried rhoi
Mewn rhai achosion, gall eich hen ddodrefn gael ei gasglu AM DDIM os yw mewn cyflwr da ac y gall fod o fudd i rywun arall. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Circulate Furniture Recycling ar 01495 793187.
Fel arall, gallwch fynd ag unrhyw eitem o'r cartref nad oes arnoch ei heisiau mwyach i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn New Inn, Pont-y-pŵl. Mae'r oriau agor ar gael yn ardal y wefan ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Gwasanaeth Casglu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithredu Gwasanaeth Casglu Eitemau Swmpus ar gyfer eitemau mwy o wastraff y cartref, fel dodrefn a nwyddau gwynion. Gallwn gasglu hyd at gyfanswm o 8 eitem mewn un ymweliad.
Pa fath o ddeunydd y bydd y gwasanaeth yn ei gasglu?
Byddwn yn casglu:
- Nwyddau gwynion - rhewgelloedd, poptai, peiriannau golchi
- Sofas
- Dodrefn - byrddau, cadeiriau, soffas, gwelyau
- Dodrefn ystafelloedd bwyta , byrddau, cadeiriau, desgiau
- Drysau mewnol, carpedi, linoliwm, ysgolion
- Pramiau, pramiau ysgafn
- Sleidiau, siglenni, pyllau padlo
- Dodrefn gardd, llinellau rotari, berfâu, peiriannau torri gwair
- Beiciau
- Microdonnau
- Teganau wedi torri
- Sgwteri plant
- Byrddau ymyl gwely
- Byrddau ymyl
- Cyfrifiaduron
Ni fyddwn yn casglu:
- Ffenestri neu fframiau pren ffenestr , gwydr, landeri
- Asbestos
- Drysau allanol, drysau garej
- Dodrefn ystafelloedd ymolchi
- Bwyleri, tanciau olew, gwresogyddion storio, rheiddiaduron, agas, rayburns, llefydd tân
- Rwbel adeiladwyr ,teils cegin / ystafell ymolchi
- Siediau, tai gwydr, ffensys, giatiau
- darnau ceir
- Pianos
Sylwch, rhaid i'r preswylydd ddatgymalu unrhyw eitemau trwm e.e. cypyrddau dillad mawr, cyn iddynt gael eu casglu.
Sut mae'r gwasanaeth casglu'n gweithio?
Os nad yw dodrefn yn addas i'w hailddefnyddio, byddwn yn ei gasglu am dâl o £29 ar gyfer:
- 3 eitem fawr
- Hyd at chwe eitem ganolig
- Opsiwn hybrid, sy'n eich galluogi i newid un eitem swmpus am ddwy eitem ganolig
Codir tâl o £7 am un eitem fawr ychwanegol a £3.50 fesul eitem ganolig.
Sylwch nad oes modd ad-dalu’r tâl.
Byddwn yn trefnu i eitemau gael eu casglu ar ddiwrnod sy'n gyfleus i chi.
Rhaid i bob eitem gael ei rhoi y tu allan, mewn man amlwg, cyn 7.30am ar y diwrnod casglu. Peidiwch â rhoi eitemau allan i'w casglu tan y diwrnod casglu, gan y gallant achosi rhwystr. Ni chaiff eitemau eu casglu o'r tu mewn i'r eiddo.
Gwneud cais i ni gasglu eitem swmpus o’ch cartref
Diwygiwyd Diwethaf: 13/07/2026
Nôl i’r Brig