Rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd (bin/ailgylchu)
Os oedd eich sbwriel/deunydd ailgylchu yn ei fan casglu ar yr amser cywir, ond methwyd ei gasglu, dylech gysylltu â ni.
Nodwch os gwelwch yn dda, nad ydym yn dychwelyd i gasglu biniau â chlawr porffor a fethwyd onid oedd:
- Problem mynediad oherwydd gwaith ffordd, digwyddiad difrifol neu dywydd garw ee eira
- Cofnod bod bin wedi ei ddifrodi ac nad oed modd ei gasglu
- Ei fod yn gasgliad â chymorth a fethwyd
Mae’r Adran Gwastraff yn ymchwilio i bob adroddiad am gasgliadau biniau â chlawr porffor a fethwyd, drwy ddefnyddio ein system olrhain ein cerbydau. Bydd angen cadw’r gwastraff ai osod allan i’w gasglu ar y diwrnod casglu nesaf. Nodwch na fydd gwastraff ychwanegol, nad yw’n medru cael ei roi yn y bin, yn cael ei gasglu.
Os ydych am roi gwybod am gasgliad (bin/ailgylchu) a fethwyd am y tro cyntaf, mae angen i chi gofrestru ychydig o fanylion fydd yn ein helpu i ymateb i’ch cais. Trwy gofrestru eich manylion gallwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.
Rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd (bin/ailgylchu)
Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2026
Nôl i’r Brig