Blwch Du

Pa mor aml mae'r blwch du yn cael ei gasglu?

Mae’r blwch du yn cael ei gasglu bob wythnos.

Beth sy'n mynd yn y blwch du?

Ie, os gwelwch yn dda

  • Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V  (rhaid rhoi bag a'i glymu)
  • Amlenni
  • Tuniau bwyd a chaniau diod
  • Erosolau gwag (dim paent chwistrell nac erosolau diwydiannol)
  • Papurau newydd, cylchgronau a phost sothach
  • Catalogau a chyfeirlyfrau ffôn
  • Jariau a photeli gwydr
  • Dillad, tecstilau ac esgidiau mewn parau
  • Poteli plastig (dim cynwysyddion plastig eraill, os gwelwch yn dda)
  • Plastig (ee potiau iogwrt, tybiauhufen iâ a margarin, pecynnau bwyd microdon, poteli deunydd glahau, caeadau plastig)

Dim diolch

  • Gwydr wedi torri
  • Cewynnau papur
  • Bagiau plastig
  • Polystyrene, ffilm plastig, haenen lynu
  • Teganau
  • Cardbord, potiau blodau, hambyrddau hadau, cambren cotiau, pecynnau creision
  • Papur lapio

Awgrymiadau

  • Rhowch label ar eich blwch
  • Golchwch a gwasgwch yr eitemau er mwyn cael mwy i mewn, ac i gadw’r blwch yn lân

Ar ba ddiwrnod caiff fy mlwch ei gasglu?

Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Bin/blwch heb ei gasglu

Os oedd eich blwch yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am fin/blwch heb ei gasglu a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl.

Roi gwybod am gasgliad a fethwyd

Mae gen i ormod o eitemau ailgylchu i’w rhoi yn y blwch du, beth alla i wneud?

Fe allwn roi ail flwch i chi. Nid ydym yn cludo sachau neu flychau ailgylchu newydd atoch chi ond gallwch eu casglu am ddim o un o’n hybiau:

  • Gofal Cwsmeriaid Blaenafon, Canolfan Feddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am – 6.30pm)
  • Eglwys Noddfa, Abersychan (ffoniwch 01495 448902 am amserau agor)
  • Trac 2, Siopau Trefddyn, Trefddyn (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 4pm)
  • Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm)
  • Tŷ Panteg, Greenhill Road, Tref Gruffydd (ffoniwch 01495 763605 am amserau agor)
  • The Coffee Bar, Woodland Road, Croesyceiliog (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am-3pm)
  • Canolfan Gymunedol y Pishyn Tair, Y Ddôl Werdd (ffoniwch am amserau agor 01633 869227)
  • Hwb CoStar, 2 Fairwater Square, Siopau Fairwater (Dydd Llun i Ddydd Iau 9.30- 4pm, Dydd Gwener 9.30am -1.30pm)
  • Llyfrgell Cwmbrân 
  • Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd 

Beth sy'n digwydd i'm hailgylchu?

Caiff papur ei ddefnyddio mewn papurau newydd, caiff plastig ei droi'n ddefnydd cynfasau a pheipiau, gall tuniau a chaniau fynd tuag at bopeth o geir i systemau bleindiau rholer. Caiff gwydr ei brosesu'n boteli gwydr a chaiff tecstilau eu didoli a'u gwerthu fel dillad yn y DU a thramor. Caiff gweddill y tecstilau eu defnyddio ar gyfer clytiau glanhau a deunydd gwrthsain.

I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?

Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig