Bag Glas
Pa mor aml mae’r bag glas yn cael ei gasglu?
Mae’r cardbord yn eich bag glas yn cael ei gasglu bob pythefnos.
Beth sy'n mynd yn y bag glas?
Ie, os gwelwch yn dda
- Bocsys grawnfwyd
- Unrhyw ddeunydd pacio cardbord
- Tiwbiau cardbord
- Bocsys wyau
- Cardiau cyfarch
- Cardbord rhychiog
Dim diolch
- Mewnosodiadau plastig
- Cynhwysyddion Tetra Pak
- Cerdyn â ffoil arno
- Polystyren
- Papur lapio
Awgrymiadau
- Labelwch eich bag fel bad yw’n mynd ar goll
- Gwasgwch eich cardbord yn wastad i greu mwy o le yn y bag
Ar ba ddiwrnod caiff fy mag ei gasglu?
Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.
Casgliadau a fethwyd
Os oedd eich bag yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen ar-lein i roi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl
Mae gen i ormod o gardbord i fy mag glas, beth allaf ei wneud?
Gallwn rhoi ail fag i chi. Nid ydym yn cludo sachau neu flychau ailgylchu newydd atoch chi ond gallwch eu casglu am ddim o un o’n hybiau:
- Gofal Cwsmeriaid Blaenafon, Canolfan Feddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am – 6.30pm)
- Eglwys Noddfa, Abersychan (ffoniwch 01495 448902 am amserau agor)
- Trac 2, Siopau Trefddyn, Trefddyn (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 4pm)
- Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm)
- Tŷ Panteg, Greenhill Road, Tref Gruffydd (ffoniwch 01495 763605 am amserau agor)
- The Coffee Bar, Woodland Road, Croesyceiliog (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am-3pm)
- Canolfan Gymunedol y Pishyn Tair, Y Ddôl Werdd (ffoniwch am amserau agor 01633 869227)
- Hwb CoStar, 2 Fairwater Square, Siopau Fairwater (Dydd Llun i Ddydd Iau 9.30- 4pm, Dydd Gwener 9.30am -1.30pm)
- Llyfrgell Cwmbrân
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd
Beth sy’n digwydd i fy nghardbord?
Rydym yn mynd â'ch cardbord i brosesydd lle mae'r cerdyn yn cael ei brosesu i greu deunydd pacio unigryw, arddangosfeydd a chynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau pacio â glud, deunyddiau pacio nwyddau peryglus, cetris glud a selwyr, pecynnau cymysg, paledau rhychog a deunydd pacio cryf.
I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?
Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.
Diwygiwyd Diwethaf: 24/05/2023
Nôl i’r Brig