Cadi Brown

Pa mor aml mae’r cadi brown yn cael ei gasglu?

Mae’r bwyd yn eich cadi brown yn cael ei gasglu bob wythnos.

Beth sy'n mynd yn y cadi brown?

Ie, os gwelwch yn dda

  • Sborion bwyd o'r gegin (pob math o fwyd wedi'i goginio neu heb ei goginio)
  • Ffrwythau a llysiau
  • Cig, pysgod ac esgyrn
  • Caws a phlisg wyau
  • Bara, grawnfwyd a chacennau
  • Pasta a reis
  • Bagiau te neu fâl coffi
  • Unrhyw sborion eraill oddi ar blatiau

Dim diolch

  • Unrhyw hylif (gan gynnwys saim)
  • Gwastraff anifeiliaid
  • Deunyddiau pacio bwyd

Awgrymiadau

  • Gwenwch yn siŵr eich bod yn defnyddio bag bwyd. Gallwch ddefnyddio bagiau bara
  • Ceisiwch osgoi rhoi hylifau, fel llaeth ac olew yn eich cadi
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwacáu eich cadi yn rheolaidd, rhag iddo ddrewi
  • Bydd cau clawr eich cadi yn stopio pryfed rhag mynd i mewn, a stopi aroglau rhag dianc

Pa ddiwrnod bydd fy nghadi yn cael ei gasglu?

Defnyddiwch ein system mapio i gael gwybod eich diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Gallwch gael gwybod pa liw bin fydd yn cael ei gasglu yr wythnos hon drwy ddarllen y calendr casgliadau ar gyfer eich rownd.

Casgliadau a fethwyd

Os oedd eich cadi brown yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl

Roi gwybod am gasgliad a fethwyd

Mae angen cadi/bagiau cadi newydd arnaf, beth allaf ei wneud?

Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.

Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.

Gofyn am gynhwysydd ailgylchu

Beth fydd yn digwydd i fy ngwastraff bwyd ar ôl iddo gael ei gasglu?

Ar ôl i ni gasglu eich gwastraff bwyd, mae'n cael ei gludo i gyfleuster prosesu arbennig lle mae'n cael ei drin mewn cynhwysydd caeedig. Wrth i’r bwyd ddadelfennu, mae’r tymheredd yn cael ei rheoli’n ofalus i sicrhau bod y cynnyrch gorffenedig wedi ei ddiheintio’n gyfan gwbl.

I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?

Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig