Bag melyn (cewynnau a gwastraff hylendid oedolion)

Gwasanaeth casglu cewynnau a gwastraff hylendid oedolion

Gall trigolion sydd â phlant mewn cewynnau, ac oedolion sydd â gwastraff hylendid, wneud cais am fagiau cryf, fydd yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â’ch bin a chlawr porffor.

Bydd angen i drigolion ddangos tystiolaeth eu bod yn byw yn Nhorfaen (ee bil cyfleustodau), yn ogystal â chopi o dystysgrif pob plentyn fydd yn cael ei gofrestru ar y cynllun.

Gofyn am gasgliad cewynnau neu wastraff hylendid oedolion

Beth fydd yn cael ei gasglu yn fy magiau melyn?

  • Cewynnau tafladwy
  • Pob math a maint
  • Pants dysgu a chewynnau y gellir eu tynnu i fyny
  • Pants nofio
  • Eitemau sy’n cael eu defnyddio wrth newid cewynnau fel cadachau sychu, sachau cewynnau a gwlân cotwm
  • Cynnyrch anymataliaeth
  • Padiau, pants a chydiau o bob math a maint
  • Cathetrau, stoma / bagiau colostomi a thiwbiau gwag
  • Padiau cadeiriau tafladwy a phadiau gwelyau tafladwy, leinin a phadellau

Cysylltwch â ni os nad yw'r math o gynnyrch anymataliaeth rydych chi'n ei ddefnyddio wedi'i restru uchod.

Bydd fydd ddim yn cael ei gasglu yn fy magiau melyn?

  • Gwastraff glanweithiol (tywelion glanweithiol neu tamponau) – rhowch hwy yn bin â chlawr porffor
  • Gwastraff clinigol heintus, nodwyddau, eitemau miniog a chwistrellau, gwastraff meddygol neu glinigol - siaradwch â'ch Bwrdd Iechyd lleol, tîm nyrsys ardal neu ffoniwch Wasanaeth 111 y GIG
  • Baw anifeiliaid
  • Gwelyau anifeiliaid – Gellir rhoi ychydig bach yn y bin â chlawr porffor, neu gall fod yn addas i’w gompostio gartref
  • Castiau plastr
  • Plastrau, swabiau meddygol a gorchuddion – rhowch hwy yn y bin â chlawr porffor
  • Blancedi a dillad wedi'u baeddu – rhowch hwy yn y bin â chlawr porffor

Ar ba ddiwrnod fydd fy magiau yn cael eu casglu?

Defnyddiwch ein system i ganfod eich diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Casgliadau a fethwyd

Os na gafodd eich bagiau cewynnau eu casglu ni fyddwn yn dychwelyd i’w casglu oni bai bod:

  • Anhawster i gael mynediad oherwydd gwaith ffyrdd, digwyddiad mawr neu dywydd garw fel eira
  • Casgliad â chymorth a fethwyd

Ni fydd y cyngor yn dychwelyd am unrhyw reswm arall tan eich diwrnod casglu nesaf.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r bagiau fod allan cyn 7am ar eich diwrnod casglu a dylid eu gosod yn y man lle mae’r eiddo yn cwrdd â’r palmant (neu yn eich man casglu pwrpasol).

Mae angen mwy o fagiau melyn arnaf, beth alla i ei wneud?

Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.

Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.

Gofyn am gynhwysydd ailgylchu

Diwygiwyd Diwethaf: 24/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig