Cynllun Trwydded Cerbyd
Beth yw’r Cynllun Trwydded Cerbyd?
Rhaid i rai cerbydau a threlars gael trwydded i'w galluogi i ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae trwyddedi ar gyfer trigolion Torfaen yn unig. Bydd gwasanaethydd y safle yn gwirio eich trwydded pan fyddwch yn cyrraedd y safle, yn ogystal â thystiolaeth o'ch cyfeiriad, er enghraifft bil cyfleustodau diweddar, er mwyn sicrhau bod y gwastraff yn dod o'ch cartref chi.
Pam y mae angen Trwydded?
Bwriad y trwyddedau yw atal y rheiny sy’n gwaredu ar wastraff masnach, ac atal trigolion sy’n byw y tu allan i'r Fwrdeistref, rhag cam-ddefnyddio’r safle. Os yw eich cerbyd yn syrthio i’r categori sy’n gofyn am drwydded, gwnewch gais cyn i chi ddod i’r safle. Ni chaniateir mynediad i’r rheiny sydd heb drwydded.
Sut ydw i'n cael Trwydded?
Cais am Drwydded Fan/Trelar
Codir tâl gweinyddol o £10 am bob trwydded .
Mae'r safle ar agor 7 diwrnod yr wythnos a chaniateir cerbydau sydd â thrwydded rhwng 10.00am a 3.00pm.
A oes rhaid i mi wneud cais am drwydded ar gyfer pob ymweliad?
Oes. Mae pob trwydded yn caniatáu un ymweliad â'r safle. Gall pob cartref wneud cais am hyd at 12 trwydded y flwyddyn.
Pa gerbydau sydd angen trwydded?
Cerbydau nad oes angen trwydded arnynt
- Ceir (ac eithrio'r rhai sydd yn y categorïau isod)
- SUV a 4x4 (ac eithrio'r rhai sydd yn y categorïau isod)
- Cerbydau cludo criw (hyd at 7 sedd, a’r rhes gefn yn plygu)
- Cerbydau wedi'u haddasu i bobl anabl, ac o fewn terfynau maint a phwysau’r safle
- Faniau Gwersylla Bach (rhaid bod yn llai na 5 metr ac wedi'u ffitio'n llawn a'u defnyddio fel faniau gwersylla)
Cerbydau sydd angen trwydded
- Faniau (≤3.5t, ≤5m o hyd, ≤2.2m o uchder)
- Faniau sy'n deillio o geir (ee, VW Caddy, Ford Transit Connect)
- Faniau ‘Combi’
- Faniau â chefnau agored (ee Ford Ranger, VW Amarok)
- Bysiau mini (ee, Mercedes Sprinter, o fewn y terfynau maint)
- Cerbydau y mae eu seddi cefn wedi'u tynnu'n barhaol
- Ceir gyda threlars (≤1.8m o hyd)
Cerbydau na chaniateir ar y safle
- Cerbydau sy'n fwy na 5m o hyd neu 2.2m o uchder
- Cerbydau dros 3.5t
- Cerbydau masnachol
- Faniau gwersylla mawr/hir (sy'n fwy na 5 metr o hyd)
- Faniau gwersylla nad ydynt bellach wedi’u ffitio’n fewnol
- Faniau tipio, faniau â chefn gwastad, cerbydau bocs, blychau ceffylau, carafanau, cartrefi modur, tractorau
- Ceir gyda threlars >1.8m o hyd
Beth os ydw i'n hurio/cael benthyg cerbyd i gael gwared ar wastraff y cartref ar fyr rybudd??
Bydd dal angen trwydded arnoch cyn y gallwch ddefnyddio'r safle. Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded, byddwn yn gofyn am fanylion y cerbyd y byddwch yn ei yrru ac am ba hyd yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Ni all y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyhoeddi trwyddedau. O ran cerbydau sydd wedi'u hurio, bydd angen i chi fynd â'ch Cytundeb Hurio (ynghyd â thystiolaeth o bwy ydych) sy'n dangos mai chi sydd wedi hurio'r cerbyd.
A oes cyfyngiad ar faint o wastraff y gallaf ddod ag ef i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?
Oes, cewch ddod â hyd at dunnell o wastraff yn unig i'r safle fesul ymweliad. Gall cerbydau sydd dros eu pwysau gael eu gwrthod.
Nid yw meintiau mawr o rwbel a gwastraff adeiladu/dymchwel yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref, ac ni chaiff y rhain eu derbyn..
Os oes gennych feintiau mawr o wastraff adeiladu/dymchwel, rydym yn eich cynghori i ddefnyddio gwasanaeth sgipiau neu gontractwr gwastraff.
Rhaid i rwbel a phridd fod mewn bagiau neu gynwysyddion priodol.
A allaf wneud cais am drwydded i grefftwyr sy'n gweithio ar fy nhŷ?
Na. Nid ellir gwneud ceisiadau ar ran pobl eraill, fel crefftwyr sy'n cael eu cyflogi gennych i wneud gwaith. Rhaid talu am y gwastraff hwn – os byddwch chi'n cael gwared â gwastraff masnach ar y safle heb dalu, byddwch yn torri'r gyfraith.
Pryd mae'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor?
Ewch i dudalen y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i gael manylion am yr oriau agor a'r eitemau sy'n cael eu derbyn ar y safle.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/11/2025
Nôl i’r Brig