Clybiau y Tu Allan i Ysgol

Mae Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol yn bodoli i hwyluso'r problemau gofal plant y mae llawer o rieni'n eu cael oherwydd gwaith, hyfforddiant neu ymrwymiadau eraill. Maent yn darparu clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofal chwarae cofleidiol i blant oedran ysgol. 

Mae gan lawer o ysgolion glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, tra mae eraill wedi'u lleoli mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a meithrinfeydd dydd. Caiff presenoldeb plant ei gofrestru a byddant yn cael diod a byrbryd. Lle bo'n briodol (lle mae clwb yn darparu gofal i blant dan 8 oed am dros 2 awr y dydd), mae clybiau wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac mae staff chwarae cymwysedig neu hyfforddedig yn goruchwylio'r gweithgareddau. Dylai'r amgylchedd chwarae fod yn symbylol ac yn amrywiol, gydag ystod o weithgareddau fel celf a chrefft, gemau a chwarae corfforol y gall y plant ddewis ohonynt. Efallai y bydd ardal dawel ar gael ar gyfer darllen a gwaith cartref hefyd. Caiff plant eu goruchwylio nes i riant neu ofalwr ddod i'w casglu. Weithiau, bydd gwasanaeth casglu ar gael i fynd â'r plant i'r ysgol o'r clwb a'u casglu o'r ysgol ar ddiwedd y dydd. 

Am ragor o wybodaeth am glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ffôn: 0800 0196330

E-bost: fis@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig