Gwarchodwyr Plant a Meithrinfeydd

Gwarchodwyr plant

Darparwyr gofal dydd sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yw gwarchodwyr plant. 

Mae gwarchodwyr plant yn cynnig ymagwedd hyblyg at ofal dydd. Gall plant sydd dan ofal gwarchodwyr plant fod yn rhan o'r gymuned leol h.y. grwpiau rhieni a phlant bach, cylchoedd chwarae ac ati. Gellir gwneud trefniadau hefyd ar gyfer gofal plant adeg gwyliau ysgol i blant sy'n hŷn. Bydd pryd canol dydd yn cael ei ddarparu fel arfer ac mae modd trafod yr oriau gofal a'r math o weithgareddau. 

Mae oriau a ffioedd yn gallu amrywio rhwng gwarchodwyr plant a bydd rhaid i chi drafod y rhain. Mae'n ddoeth llofnodi contract o gytundeb cyn i'r gwarchod ddechrau. 

Rhaid i bob gwarchodwr plant gael ei gofrestru a'i archwilio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), a fydd yn gwirio ei addasrwydd, ei gartref a phawb o dan 16 oed sy'n byw yn y cartref. Am wybodaeth am sut i weld adroddiad arolygu gwarchodwr plant, cysylltwch ag AGGCC ar 01495 761200 neu ewch i'w gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth am warchodwyr plant yn eich ardal, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 0800 0196330.

Os hoffech ddod yn warchodwr plant cofrestredig, cysylltwch â Thîm Gofal Plant a Chymorth Busnes Torfaen ar 01633 648155. Bydd swyddog cymorth busnes yn fwy na pharod i roi arweiniad i chi ar y broses o ddod yn warchodwr plant a'ch cynghori am unrhyw gyllid sydd ar gael.

Peidiwch â gadael eich plentyn gyda gwarchodwr nad yw wedi'i gofrestru neu nad yw ei yswiriant yn diogelu eich plentyn. 

Crèche

Mae crèche yn darparu gofal dydd achlysurol i blant o dan wyth oed tra bod eu rhieni'n siopa, yn gwneud chwaraeon neu ar gwrs, er enghraifft. Disgwylir i rieni aros ar eiddo'r crèche. Rhaid i crèche fod wedi'i gofrestru os yw'n gweithredu am fwy na dwy awr y dydd, hyd yn oed lle mae plant unigol yn mynd yno am gyfnodau byrrach.

I ddod o hyd i crèche lleol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ffôn: 0800 0196330

E-bost: fis@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig