Meithrinfeydd Dydd
Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal dydd llawn neu ofal sesiynol wedi'i gofrestru ar gyfer plant o dan 5 oed. Mae'n bosibl y bydd rhai yn darparu gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau i blant hŷn hefyd. Maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau chwarae ac yn darparu cyfleusterau ar wahân ar gyfer babanod a phlant bach. Mae meithrinfeydd dydd hefyd yn darparu mynediad at le chwarae awyr agored, diogel ac mae ganddynt gyfleusterau ar gyfer cyfnodau gorffwys, gyda phrydau bwyd yn cael eu gweini ar y safle.
Gall rhai meithrinfeydd dydd gynnig addysg ran-amser sy'n cael ei hariannu gan yr Awdurdod Addysg Lleol o'r tymor yn dilyn pen-blwydd plentyn yn 3 oed.
I gael rhagor o wybodaeth am feithrinfeydd dydd yn eich ardal neu restr o'r holl feithrinfeydd dydd yn Nhorfaen, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig