Cymorth Ariannol gyda Chostau Gofal Plant
Gall gofal plant ymddangos yn gostus ond, cyn i chi benderfynu na allwch ei fforddio, cofiwch fod gan rai teuluoedd hawl i gael cymorth ariannol.
Elfen Gofal Plant Credyd Treth Gwaith
Os ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, efallai y byddwch yn gallu hawlio Elfen Gofal Plant Credyd Treth Gwaith hefyd. Yna, os ydych yn defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy, byddwch yn gallu hawlio rhai o'ch costau'n ôl trwy'r Elfen Gofal Plant. O fis Ebrill 2006 ymlaen, cynyddodd gyfran y costau y mae'r Elfen Gofal Plant yn eu talu i 70%, yn amodol ar uchafswm o £175 ar gyfer 1 plentyn a £300 ar gyfer 2 neu fwy o blant.
Am gyngor a gwybodaeth am eich cais, ffoniwch Linell Gymorth Credyd Treth Cyllid a Thollau EM ar 0845 300 3900.
Am wybodaeth am ofal plant cofrestredig yn Nhorfaen neu i weld a yw gofalwr plant wedi'i gofrestru ai peidio, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen roi llyfryn 'Credyd Treth Gwaith – Help gyda Chostau Gofal Plant’ i chi hefyd.
Talebau Gofal Plant
Caiff talebau gofal plant eu gweinyddu trwy gwmni talebau a'u darparu ar ran cyflogwr, trwy gynllun aberthu cyflog, fel arfer. Caiff talebau gofal plant eu cymryd o gyflog gweithiwr cyn treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Felly, caiff y swm ei eithrio o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at £555 yr wythnos, ond dim ond os yw'r gofal plant sy'n cael ei ddefnyddio wedi'i gofrestru neu ei gymeradwyo.
Rhaid i chi gysylltu ag adran Adnoddau Dynol eich cyflogwr i weld a yw'n gweithredu'r cynllun.
Os ydych yn hyfforddi
Os ydych chi'n dilyn cwrs amser llawn mewn addysg bellach, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant ar gyfer eich gofal plant gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Ffoniwch y Tîm Cymorth i Fyfyrwyr ar 01633 648121 am ragor o fanylion.
Mae Pontydd i Waith yn cynnal ystod o gyrsiau am ddim (ynghyd â rhai sy'n cynnig meithrinfa am ddim) – ffoniwch 01633 647742 neu cysylltwch â'r Tîm Dysgu Oedolion a'r Gymuned ar 01633 647000 am wybodaeth am eu cyrsiau a'u cyfleusterau meithrinfa.
Gall Genesis Cymru 2 helpu i gael gwared â rhwystrau rhag gweithio a rhoi'r hyder, y sgiliau a'r cyfle i chi fanteisio ar ddysgu, gwella eich sgiliau a dod o hyd i swydd! Er enghraifft, gall Genesis eich helpu i ddod o hyd i ofal plant a grantiau i dalu costau'r cwrs a theithio. Os ydych chi dros 16 oed, yn ddi-waith neu'n hawlio budd-dal, ffoniwch Genesis ar 0800 0196330 neu anfonwch neges e-bost at: genesis2@torfaen.gov.uk i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael cymorth ai peidio.
Help i rieni gan y Ganolfan Byd Gwaith
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn darparu cyngor ymarferol ar ddod o hyd i waith, cymorth â gofal plant, pecynnau hyfforddiant, gwybodaeth am fudd-daliadau a chymorth tra'r ydych chi'n gweithio. Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 6043719 i weld a allech chi gael cymorth ariannol â chostau gofal plant tra'r ydych chi'n mynd i gyfweliadau/yn ailhyfforddi.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/01/2022
Nôl i’r Brig