Deuluoedd Blynyddoedd Cynnar Torfaen
Mae bod yn rhiant yn gallu dod â llawenydd a hapusrwydd yn ogystal â heriau, ar adegau.
fagu plant mewn modd cadarnhaol a meithrin perthnasoedd ystyrlon, gall rhieni fagu plant iach, datblygu cartref mwy tawel a heddychlon, gyda llai o ddadleuon a gwrthdaro.
Mae tîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gyda theuluoedd â phlant 0-7 oed sy’n byw yn Nhorfaen i wella hyder a sgiliau magu plant, cryfhau perthnasoedd a meithrin lles a gwydnwch.
- 'Grŵp Cyn-Geni ‘Croeso I’r Byd’ Cysylltiadau Teuluol - Rhaglen cyn-geni Croeso i’r Byd i ddarpar famau, tadau a chymheiriaid sydd rhwng 22 a 30 wythnos yn feichioger
- Grŵp Babanod Y Blynyddoedd Rhyfeddol - I rieni a’i babi 0-5 mis
- Elklan ‘Dewch i Ni Siarad a’ch Babi'- I rieni a’u babi 3-12 mis
- Babanod I Gyd - I rieni a’u babi 3-12 mis
- Magu Plant Mewn Ffordd Chwareus - I rieni a’u plant 1-3 oed
- Rhaglen Babanod y Blynyddoedd Rhyfeddol - I rieni â phlant 12-24 mis
- Gweithdai Cysylltiadau Teuluol - I rieni â phlant 2-4 oed
- Grŵp Cylch Diogelwch - I rieni â phlant 4 mis-4 oed
- Rhaglen Magu Plant Cysylltiadau Teuluol - I rieni â phlant dan 11 oed
- Rhieni Fel Athrawon Cyntaf (PAFT) - Rhieni fel Athrawon Cyntaf i deuluoedd â phlant 0-4 oed
- Sesiynau Dad a Fi - Mae sesiynau dad a fi’n croesawu tadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu, a’u plant 0-5 oed
- Sesiynau Chwarae Teuluol - Mae’r sesiynau teuluol yn croesawu rhieni/gofalwyr, aelodau’r teulu, gwarchodwyr plant a’u plant 0-5 oed
- Grŵp i Dadau gan Dadau - Grŵp i dadau newydd a rhai sy’n disgwyl sydd am ddysgu mwy am fod yn dad a sut i fod y tad gorau posibl
- Grŵp Awyr Agored Ysgolion y Goedwig - Mae’r grŵp yn addas i famau, tadau a’u plant 1 -3 oed
Cysylltwch â ni nawr i dderbyn mwy o wybodaeth neu i gofrestru ar unrhyw rhai o’r grwpiau sydd wedi eu rhestru. Anfonwch neges atom drwy dudalen Blynyddoedd Cynnar Torfaen ar Facebook neu rhowch alwad i ni ar 07950187925
'Grŵp Cyn-Geni ‘Croeso I’r Byd’ Cysylltiadau Teuluol
I bwy mae e?
Ydych chi’n fam, dad neu bartner sy’n disgwyl babi ac yn llawn cyffro am ymuno â’r byd magu plant? Mae grŵp Cyn-geni ‘Croeso i’r Byd’ yn addas i ddarpar rieni sydd rhwng 22 a 30 wythnos yn feichiog.
Gwybodaeth ymarferol
Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 8 wythnos.
Beth yw’r manteision?
- Ymwybyddiaeth o’ch emosiwn a sut mae o fudd i chi a’r babi.
- Meithrin cysylltiad â’ch babi cyn iddo hyd yn oed gael ei eni.
- Cyfle i uniaethu â ‘chliwiau a signalau’ babi a deall ei anghenion.
- Creu’r cwlwm agosrwydd cryf hwnnw â’ch babi a’i baratoi i feithrin perthnasoedd da yn y dyfodol.
- Gweld y byd trwy lygaid eich babi a’i wneud yn ddiogel yn emosiynol ac yn gorfforol.
- Cyfarfod â mamau a thadau newydd eraill, rhannu’r daith, rhoi cymorth i’ch gilydd a gwneud ffrindiau newydd.
- Bydd hwyluswyr hyfforddedig a bydwraig yno i’ch cynorthwyo ac ateb eich cwestiynau.
Nôl i’r Brig
Grŵp Babanod Y Blynyddoedd Rhyfeddol
I bwy mae e?
Ydych chi’n fam neu’n dad gyda babi 0-5 mis oed a hoffai rywfaint o gymorth i greu’r amgylchedd gorau i’ch babi ddatblygu?
Os ateboch “Ydw”, yna rydyn ni’n darparu lle i chi ddod i gyswllt â mamau a thadau eraill a’ch babanod i gael amser i ganolbwyntio ar fod y fersiwn orau ohonoch chi. Gorau po ieuengaf yw eich babi gan ei fod yn rhoi mwy o gyfle i chi ymarfer y sgiliau newydd hyn.
Gwybodaeth ymarferol
Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 9 wythnos.
Beth yw’r manteision?
- Sut mae canolbwyntio ar eich lles emosiynol eich hun yn eich cynorthwyo i fod yn fam neu’n dad gwell.
- Sut y gallwch chi sefydlu’r cwlwm agosrwydd hwnnw â’ch babi, cynyddu ei ddiogelwch a gosod y sylfaen iddo feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn eu bywyd.
- Deall sut mae ymennydd eich babi yn gweithio a sut y bydd yn datblygu.
- Dysgu sut i fynd ati i dylino corff eich babi sy’n eich helpu chi a nhw i ymlacio ac rydych chi’n teimlo’n fwy cysylltiedig.
- Nodi pryd a sut i gyflwyno bwydydd solet i ddiet eich babi gyda syniadau o’r bwydydd y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw.
- Cydnabod pa mor bwysig yw chwarae. Sut y gall fod yn hwyl, helpu eich babi i ddysgu siarad i wella dysgu, ysgogi ei ymennydd, a chefnogi’r cwlwm agosrwydd rhyngoch chi a’ch babi.
- Canfod y pethau y gallwch eu gwneud i gynyddu diogelwch eich cartref.
- Cyfarfod â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu eich taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Adborth
- “Fel un sy’n fam am y tro cyntaf, defnyddiol iawn oedd cael y cyfle i siarad a holi cwestiynau. Mae’n gwneud i mi feddwl am y dyfodol a pharatoi ymlaen llaw am y cyfnod pan fydd fy mabi yn dechrau bwyta bwydydd solet a dechrau cropian ac ati. Diolch!!”
- “Fe wnes i fwynhau’r rhaglen yn fawr. Dysgais lawer o syniadau newydd o ran chwarae ac roedd y sesiwn ddiddyfnu a sesiynau diogelwch yn ddefnyddiol iawn. Dysgais lawer o bethau nad oeddwn yn eu gwybod. Diolch.”
Nôl i’r Brig
Elklan ‘Dewch i Ni Siarad a’ch Babi'
I bwy mae e?
Mae grŵp ‘Dewch i ni siarad â’ch babi’, Elklan, i famau a thadau sydd â babi rhwng 3 a 12 mis oed ac am baratoi’r babi i ddweud ei eiriau cyntaf a thu hwnt.
Gwybodaeth ymarferol
Mae pob sesiwn yn 1 awr a 30 munud ac yn cael eu cynnal dros 8 sesiwn.
Beth yw’r manteision?
- Edrych ar y ffyrdd iachaf o ryngweithio â’ch babi a’u paratoi i siarad.
- Darganfod sut i wella’r cysylltiad â’ch babi a’i sefydlu am oes.
- Byddwn yn dangos i chi sut i greu amgylchedd sy’n ysgogi eu synhwyrau trwy ddysgu gweithgareddau difyr a rhyngweithiol.
- Dysgu am gyswllt llygad, rhannu sylw, archwilio gweadau, canu a mwynhau cerddoriaeth, chwarae dŵr, cymryd tro, archwilio a symud a thylino’r corff i fabanod.
- Gallwch chi gwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Adborth
- “Mae bod yng nghwmni mamau a phlant eraill wedi ein helpu ni’n dau, rydw i’n mynd at grwpiau eraill ond nid ydyn nhw wir yn trafferthu gyda ni, yn y grŵp hwn mae mor gyfeillgar a chroesawgar ac rydyn ni’n siarad am unrhyw beth, mae pawb wedi bod yno i mi yn ystod y cyfnod anodd gyda thorri dannedd ac ef yn gwrthod cysgu. Mae rhieni wedi rhoi cyngor i mi yn yr hyn y gallaf ei ddefnyddio.”
Nôl i’r Brig
Babanod I Gyd
I bwy mae e?
This group is suitable for mums and dads with babies between 3-12 months.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae’n sesiwn galw heibio wythnosol.
- Mae pob sesiwn tua 1 awr a 30 munud.
- Cynhelir y sesiynau yn yr awyr agored ymhob tywydd felly gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch babi wedi gwisgo’n briodol.
Beth yw’r manteision?
- Gallwch chi gwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael syniadau newydd o ran sut i gysylltu ag iaith, synau a chyffyrddiad yn y dyddiau cynharaf sy’n annog y cyswllt rhyngoch chi a’r babi.
- Gallwch ganolbwyntio ar ddatblygu’ch cwlwm agosrwydd a sut rydych chi’n ymateb ac yn rhyngweithio â’ch babi.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae difyr sy’n ysgogi’ch babi mewn lleoliad hapus.
- Cewch brofiad o le gwyrdd ac awyr iach sy’n bwydo’ch iechyd meddwl ac yn rhoi teimladau da i chi, gan helpu i leddfu straen a phryder.
- Ymarfer corff ysgafn wrth i chi ymuno â ni am dro o amgylch y parc.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Adborth
- “Am ddweud diolch wrthych, mae’n gwneud fy wythnos.”
Nôl i’r Brig
Magu Plant Mewn Ffordd Chwareus
I bwy mae e?
Ar gyfer mamau a thadau sydd eisiau dysgu mwy am bwysigrwydd chwarae a meithrin perthynas. Mae ar gyfer teuluoedd â phlant sydd rhwng 1-3 blynedd i annog datblygu iaith a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol eu plant bach.
Gwybodaeth ymarferol
Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 4 wythnos.
Beth yw’r manteision?
- Gwella perthnasoedd teuluol.
- Dysgu am chwarae a’i fanteision i chi a’ch plant.
- Sut i gefnogi chwarae a gwneud bywyd bob dydd yn fwy chwareus.
- Myfyrio ar eich atgofion pleserus o chwarae a sut y gwnaeth i chi deimlo.
- Archwilio’r gwahanol fathau o chwarae a phatrymau chwarae.
- Cynyddu’ch hyder i chwarae gyda’ch plentyn a sut y gallwch ei ddefnyddio i ddatblygu eich perthynas.
- Gallu chwarae gyda’r bwriad o wybod sut mae’n adeiladu ymennydd eich babi.
- Gwybod sut i ddefnyddio adnoddau rhad ac am ddim i greu cyfnodau o safon wrth chwarae.
- Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Adborth
- “Popeth yn dda. Llawer o wahanol syniadau chwarae i’w defnyddio. Braf siarad â mamau eraill. Gwnaethoch chi waith gwych.”
- “Da iawn. Gallaf gysylltu popeth yn ôl i fy mhlentyn a deall ei ddatblygiad.”
- “Da iawn, braf gweld wynebau eraill.”
- “Teimlais yn hyderus i ofyn am gyngor. Gwnaeth y ddau ohonoch waith anhygoel.”
Nôl i’r Brig
Rhaglen Babanod y Blynyddoedd Rhyfeddol
I bwy mae e?
Mae ar gyfer mam a thadau gyda phlant sydd rhwng 12-24 mis oed. Cynnig strategaethau i ymateb yn sensitif i’ch plentyn a pheidio ag annog ymddygiad diangen.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 12 wythnos.
- Darperir crèche.
Beth yw’r manteision?
- Darganfod pwysigrwydd chwarae.
- Helpu eich plentyn i deimlo ei fod yn cael ei garu a’i fod yn ddiogel.
- Sut mae rheolaeth eich plentyn dros ei chwarae yn bwysig ar gyfer ei iaith gynnar.
- Annog sgiliau cymdeithasol a datblygiad emosiynol.
- Sut y gall trefn ddod â chysondeb a diogelwch iddynt.
- Dysgu am ddisgyblaeth gadarnhaol a gosod terfyn effeithiol.
- Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Nôl i’r Brig
Gweithdai Cysylltiadau Teuluol
I bwy mae e?
Mae i famau, tadau a gofalwyr, gyda phlentyn o dan 4. Mae’n cynnig syniadau a strategaethau i ddelio â’r heriau y gall plant eu hwynebu fel y gallwch chi gael bywyd teuluol tawelach, hapusach. Mae’n addas ar gyfer rhieni nad ydyn nhw’n gallu ymrwymo i’r rhaglen 11 wythnos lawn.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae pob sesiwn yn 2 awr a chynhelir hwy dros 4 wythnos.
- Darperir crèche.
Beth yw’r manteision?
- Deall ymddygiad plant, Gwrando a Chyfathrebu, Canmoliaeth ac Anogaeth.
- Cymharu canmoliaeth ac arweiniad â beirniadaeth, chwarae dan arweiniad plant a chyfnodau cadarnhaol.
- Ffiniau ac arddulliau magu plant, amser i dawelu, delio â straen a gwrthdaro.
- Dewisiadau a chanlyniadau, ymddygiad i’w anwybyddu, rhoi’r pos at ei gilydd, edrych ar ôl ein hunain.
- Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Nôl i’r Brig
Grŵp Cylch Diogelwch
I bwy mae e?
Grŵp i famau a thadau sydd â phlant rhwng 4 mis a 4 oed. Mae’n rhoi ffordd newydd i chi o feddwl am eich plentyn a nodi’r cliwiau sy’n dweud wrthym beth y mae nhw ei angen gennym i wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu caru ac yn cael gofal gennym.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 9 wythnos.
- Darperir crèche.
Beth yw’r manteision?
- Gallwch chi gwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Mae’n eich helpu i ddeall ymddygiad plant fel cyfathrebu.
- Cyfle i ddod o hyd i’r angen sydd y tu ôl i ymddygiad penodol a sut i ymateb mewn ffordd garedig, gefnogol
- Cefnogi’ch plentyn i ddeall ei deimladau.
- Gallwch ddarparu’r blociau adeiladu i’ch plentyn ar gyfer dyfodol emosiynol, iach.
- Adnabod eich ‘cerddoriaeth siarc’ sy’n eich galluogi i aros yn ddigynnwrf pan fydd ymddygiadau yn llethol.
- Gwybod pryd i gysuro ac amddiffyn ond hefyd, rhoi lle iddynt archwilio i helpu i ddatblygu eu cymeriad eu hunain.
- Gwybod sut i atgyweirio’r berthynas pan fyddwch chi a’ch plentyn yn cynhyrfu.
- Cynyddu’r cwlwm agosrwydd gyda’ch plentyn wrth i chi ddysgu i’w ddeall ef a’r hyn sydd ei angen arno.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
- Mae’n le diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
- Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus a hapusach.
Adborth
- “Rwy’n credu y byddai’r grŵp yn ddefnyddiol i bob rhiant, waeth beth yw oedran neu anghenion eu plant neu eu profiadau bywyd penodol. Es i mewn i’r grŵp gan feddwl fy mod eisoes yn deall ymlyniad a bod gennyf berthynas gadarnhaol â fy mhlant ac felly na fyddwn yn elwa o’r cwrs, ond cefais fy syfrdanu gan cymaint yr wyf wedi’i ddysgu a’r newid sylfaenol mewn persbectif y mae wedi ei rhoi i mi.
Nôl i’r Brig
Rhaglen Magu Plant Cysylltiadau Teuluol
I bwy mae e?
Mae i famau, tadau a gofalwyr, gyda phlant o dan 11 oed. I helpu rhieni/gofalwyr i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad, wrth ddod yn fwy cadarnhaol gydag ymagwedd o feithrin yn eu perthnasoedd â’u plant a’u gilydd. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu strategaethau effeithiol i annog ymddygiad cydweithredol, cyfrifol a rheoli ymddygiad heriol mewn plant, i’n helpu i gael y gorau o fywyd teuluol.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 11 wythnos.
- Darperir crèche.
Beth yw’r manteision?
- Dysgu pam mae plant yn ymddwyn fel maen nhw’n ei wneud.
- Deall eich teimladau eich hun a sut mae’n effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant.
- Deall teimladau eich plentyn.
- Cynyddu eich natur bositif a’ch sgiliau meithrin.
- Cydnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau, rhieni a phlant.
- Archwilio gwahanol ymagweddau at ddisgyblaeth gadarnhaol.
- Pwysigrwydd edrych ar ôl a meithrin ein hunain.
- Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth mewn plant.
- Rhoi dechrau iach i’ch plentyn a chael cartref hapusach.
- Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
Adborth
- “Pleserus. Roeddwn i’n gallu siarad ag eraill am sut roeddwn i’n teimlo heb gael fy marnu.”
- “Dysgais syniadau newydd a pha mor bwysig yw edrych ar ôl eich hun.”
- “Dw i ddim fel arfer yn hoffi mynd allan ac yn cael trafferth mewn grwpiau. Ond roedd y grŵp yn fach o ran niferoedd, yn gyfeillgar ac groesawgar. Fe wnes fwynhau’r pynciau wythnosol, gan ddysgu syniadau newydd fel canmoliaeth, dewisiadau a chanlyniadau, rheolau teulu ac amser i mewn, yn y cartref. Bob wythnos roeddem yn bwydo yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi rhoi cynnig arno gartref.”
- “Gydag anableddau fy mab roeddwn yn ei chael yn anodd ei adael gydag eraill ond gwnaeth y crèche i mi deimlo’n hyderus a thawelu fy meddwl y byddai’n iawn ac yn cael hwyl gyda’r plant eraill. Rhoddodd hyn hefyd seibiant i mi wrth fy mab, sydd wedi helpu ein perthynas.”
Nôl i’r Brig
Rhieni Fel Athrawon Cyntaf (PAFT)
I bwy mae e?
Mae i Famau a Thadau a’u plant sydd angen mwy o gymorth dwys neu sy’n methu cyrraedd y grwpiau.
Gwybodaeth ymarferol
- I deuluoedd â phlant rhwng y cyfnod cyn-geni a 4 oed.
- Mae’r sesiynau’n hamddenol ac yn canolbwyntio ar eich anghenion.
- Gellir cynnal sesiynau gartref neu mewn lleoliad priodol.
Beth yw’r manteision?
- Gellir teilwra’r cymorth i unigolion.
- Gellir cynnal sesiynau gartref.
- Bydd gennych wybodaeth am gymorth arall i fagu plant y gallwch ei gyrchu.
- Gallwch fyfyrio ar ymddygiad eich plentyn a dysgu sut i ymateb.
- Cyfle i ddysgu am les teulu, sut rydych chi a’ch plentyn yn rhyngweithio, a’u datblygiad.
- Cwlwm agosrwydd cynyddol gyda’ch plentyn wrth i chi ddysgu i’w ddeall a’r hyn sydd ei angen arno.
- Mae’n le diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
- Byddwch chi’n teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo’n hapusach i fod yn fam ac yn dad.
Adborth
- “Nid wyf yn gwybod o ddifri beth y buaswn yn ei wneud heb eich cymorth. Rwyf wedi bod yn cael trafferth aruthrol yn ddiweddar ac mae’n help enfawr i wybod bod rhywun yno i fy helpu.
Nôl i’r Brig
Sesiynau Dad a Fi
I bwy mae e?
Mae sesiynau dad a fi’n croesawu tadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu, a’u plant. Mae’r offer/gweithgareddau’n addas i blant 0-5 oed.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae sesiynau dad a fi’n para 1 awr a 30 munud ac maen nhw’n digwydd ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis.
- Nid yw’r sesiynau’n digwydd yn ystod gwyliau’r ysgol.
- Mae’r sesiynau am ddim.
Beth yw’r manteision?
- Lle diogel, cynnes a chroesawgar i blant a thadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu.
- Grŵp dim ond i dadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu.
- Cwrdd â thadau/dynion sy’n gofalu fel ei gilydd.
- Annog cyfleodd newydd i chwarae.
- Rhoi ffocws a rhywle i fynd.
- Cydnabod pwysigrwydd chwarae i bob plentyn a theulu.
Adborth
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Rwy’n cymryd dau o blant i grŵp dad a fi. Rydyn ni’n mynd i bob sesiwn. Mae’n wych i ni oherwydd fy mod i’n gweithio yn ystod yr wythnos. Mae’r staff yn groesawgar hefyd.”
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Mae fy merch wrth ei bodd â’r sesiynau ac rwy’ wedi cwrdd â ffrindiau newydd yma hefyd. Mae digon o bethau i’r plant chwarae â nhw ac mae’n rhoi syniadau i ni am bethau i’w gwneud.”
Nôl i’r Brig
Sesiynau Chwarae Teuluol
I bwy mae e?
Mae’r sesiynau teuluol yn croesawu rhieni/gofalwyr, aelodau’r teulu, gwarchodwyr plant a’u plant. Mae’r offer/gweithgareddau yn addas i blant 0-5 oed.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae’r sesiynau teuluol yn 1 awr a 30 munud o hyd ac yn digwydd yn wythnosol mewn lleoliadau amrywiol ledled Torfaen.
- Nid yw’r sesiynau’n digwydd yn ystod gwyliau ysgol.
- Mae sesiynau teuluol i gyd am ddim.
Beth yw’r manteision?
- Lle diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilyd i chwarae.
- Annog cyfleoedd newydd i chwarae.
- Cwrdd â theuluoedd eraill fel ei gilydd.
- Rhoi ffocws a rhywle i fynd.
- Cydnabod pwysigrwydd chwarae i bob plentyn a theulu.
- Sesiynau’n digwydd ledled y fwrdeistref.
Adborth
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Grŵp gwych! Mae fy mab wrth ei fodd yn chwarae gyda’r teganau i gyd. Gweithwyr cwrtais hyfryd. Mae fy mywyd mor brysur, dydw i ddim yn stopio, ond mae’r grwpiau yma’n rhoi amser a chyfle i chwarae.”
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Rydym ni wrth ein bodd gyda’r sesiynau dydd Mercher. Byddem ni fel arall yn y tŷ yn y tywydd ofnadwy yma. Mae’n wych bod y sesiynau am ddim gyda chostau byw fel maen nhw ar hyn o bryd.”
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Dydw i ddim yn gwybod beth fuaswn i’n gwneud heb Chwarae Torfaen. Mae’r cynlluniau am ddim yn helpu fy mhlant a fi. Mae fy mhlant yn mynd i’r ddarpariaeth trwy gydol y flwyddyn.”
- “Adborth Rhiant/Gofalwr: Rwy’n dod â fy ŵyr pob wythnos – rydyn ni wrth ein bodd. Mae fy ŵyr a fi wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae’n lle hapus a chyfeillgar i fynd iddo.”
Nôl i’r Brig
Grŵp i Dadau gan Dadau
I bwy mae e?
Grŵp i dadau newydd a rhai sy’n disgwyl sydd am ddysgu mwy am fod yn dad a sut i fod y tad gorau posibl. Mae’n rhoi ffordd newydd i chi o feddwl am eich plentyn a sut allwch chi wneud newidiadau yn eich bywyd a fydd o fudd i chi, eich partner a’ch plant. Mae’n eich helpu chi i fod y ‘Tad Gorau Erioed’.
Gwybodaeth ymarferol
- Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn digwydd dros gyfnod o 10 wythnos.
- Mae’r grŵp yn digwydd gyda’r hwyr.
Beth yw’r manteision?
- Gallwch gwrdd â thadau eraill a rhannu eich taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
- Eich helpu i ddeall ymddygiad plant fel ffordd o gyfathrebu.
- Dysgu Sgiliau Cymorth Cyntaf yn benodol i blant.
- Sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun a bod tadau eraill yn cael profiadau tebyg.
- Dysgu am grwpiau eraill yn Nhorfaen y gallwch chi fynd iddyn nhw.
- Cael cefnogaeth gan dadau eraill sy’n rhieni fel chi.
- Mae’n lle diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
- Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus a hapus.
- Dysgu am ffyrdd o gyfrannu at ddatblygiad eich plentyn.
- Meddwl am ba fath o dad yr ydych am fod.
- Dysgu Arferion Rhianta Cadarnhaol.
- Dysgu sut gall eich cyfraniad wneud eich plentyn yn fwy hapus.
Adborth
- “Mae’r cwrs wedi bod yn gefnogol, yn ddiddorol, yn ddyrchafol ac yn llawn gwybodaeth. Roedd y gefnogaeth a gwybodaeth gan Ambiwlans Sant Ioan yn wych. Roedd y sesiynau yn gyfle gwych i fi siarad â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, gwrando ar bobl eraill a sut maen nhw’n delio gyda phethau.”
- “Mae’r grŵp wedi dod yn lle diogel iawn, ac mae’r hyn rwy’ wedi dysgu o gymorth cyntaf at les meddyliol, o osod nodau i faeth wedi bod yn llawer mwy nag yr oeddwn i wedi disgwyl. Mae e wedi fy helpu i reoli camau cynharaf bod yn dad a gwneud dewisiadau gwell i fy nheulu ehangach. Ar ben hyn oll mae e wedi rhoi dwy awr unwaith yr wythnos ble gallaf i ymlacio, dysgu rhywbeth newydd a gweithio arnaf i fy hun. Y cyfan y gallaf i ddweud yw diolch i Jacob, Gareth a’r arbenigwyr i gyd sydd wedi siarad. Mae e wedi ychwanegu at y rhwydwaith hanfodol o gefnogaeth y mae ei angen ar dadau newydd fel fi.”
Nôl i’r Brig
Grŵp Awyr Agored Ysgolion y Goedwig
I bwy mae e?
Mae’r grŵp yn addas i famau, tadau a’u plant 1 -3 oed.
Gwybodaeth ymarferol
- Sesiwn galw heibio wythnosol
- Mae pob sesiwn tua 1 awr a 30 munud
- Mae sesiynau’n digwydd mewn coedwigoedd, yn yr awyr agored, ym mhob math o dywydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn wedi eich gwisgo’n briodol
Beth yw’r manteision?
- Mae Ysgol y Goedwig yn golygu dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn yr awyr agored
- Bydd plant yn dysgu sut i ddeall y goedwig gyfnewidiol o’u cwmpas
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a fydd yn ysgogi eich plentyn mewn lle hapus
- Adeiladau eu hyder a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’u chwilfrydedd i ymchwilio i’r byd o’u cwmpas
- Cwrdd â mamau a thadau eraill a gwneud ffrindiau newydd
- Profi teimladau mannau gwyrdd ac awyr iach sy’n bwydo’ch iechyd meddwl ac yn rhoi teimlad da i chi, gan helpu i leihau straen a phryder
Diwygiwyd Diwethaf: 24/08/2023
Nôl i’r Brig