Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant er mwyn cael dealltwriaeth well o’r defnydd y mae rhieni / gofalwyr yn ei wneud o ofal plant, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y fwrdeistref ac unrhyw ffactorau sy’n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Tîm Gofal Plant Torfaen a gweithredoedd ehangach y Cyngor ynglŷn â gofal plant.
Cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, sy’n cynnwys ymgynghori â rhieni / gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill bob pum mlynedd. Bob blwyddyn, cynhelir diweddariad ar yr asesiad, sy’n edrych ar gyflenwad a galw.
Gellir gweld Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 yma, ac hefyd mae e-sesiynau ategol ar farn rhieni hefyd i’w gweld yma.
Mae’r Adroddiad Dadansoddi Bylchau yn cynnwys cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau a hyrwyddo’r cryfderau a nodwyd yn yr asesiad.
Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ar gael yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2022
Nôl i’r Brig