Grwpiau Rhieni a Phlant Bach / Cylchoedd Ti a Fi

Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn darparu'n bennaf ar gyfer plant o dan 2 ½ oed. Rhaid i rieni/gofalwyr aros a bod yn gyfrifol am eu plant, felly nid oes rhaid i grwpiau gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae plant yn cael cyfle i chwarae a dysgu gyda'i gilydd a gall rhieni wneud ffrindiau newydd a chael cefnogaeth. 

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn galluogi rhieni/gofalwyr a'u plant i gymdeithasu mewn lleoliad anffurfiol Cymraeg ei iaith. Mae croeso i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg ddod i'r grwpiau hyn a chânt eu hannog i ddysgu Cymraeg gyda'u plant, mwynhau storïau, caneuon a hwiangerddi sylfaenol, ynghyd â brawddegau syml i'w defnyddio gartref.

I gael gwybodaeth am grwpiau yn eich ardal chi, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ffôn: 0800 0196330

E-bost: fis@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig