Trwyddedau Sgaffaldau a Phalisau
Rhaid i unrhyw sgaffaldiau/palisiau sy'n cael eu rhoi ar ffyrdd cyhoeddus gael hawlen. Cyfrifoldeb y cwmni sy'n darparu'r sgaffaldiau/palisiau yw cysylltu â'r Cyngor i ofyn am ganiatâd i'w rhoi ar y briffordd.
Ni chaiff hawlen ei rhoi i aelod o'r cyhoedd.
Rhaid i'r cwmni ddarparu copi o'i yswiriant atebolrwydd cyn y gellir cymeradwyo'r hawlen. Ni chaiff hawlenni eu cyhoeddi i gwmnïau gydag yswiriant atebolrwydd nad yw'n mynd y tu hwnt i £10,000,000.
Mae angen hawlenni er mwyn sicrhau nad yw sgaffaldiau'n blocio mynediad at eiddo neu gyfarpar ar y ffordd, lleihau lled ffyrdd i raddau annerbyniol neu gyfyngu gwelededd ar gyffyrdd, mynedfeydd a mannau croesi. Os caiff unrhyw rai o'r rhain eu heffeithio wrth osod sgaffaldiau/palisiau, rhaid cysylltu â'r Awdurdod Priffyrdd a chaiff ymweliad safle ei drefnu i drafod y sefyllfa. Fodd bynnag, rhaid gwneud hyn cyn codi'r sgaffald/palis.
Mae angen hawlenni hefyd ar gyfer cabanau a phalisiau adeiladwyr sy'n cael eu rhoi ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno, gan gynnwys meysydd parcio, llwybrau troed a'r briffordd.
Ni ddylech godi sgaffald neu balis ar ffordd gyhoeddus heb hawlen gennym ni. Rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd wrth ymgeisio am drwydded.
Rhaid i sgaffald/palis gael ei farcio'n glir gydag enw a chyfeiriad y perchennog a rhif ffôn brys 24 awr.
Y ffioedd am drwydded sgaffald / hysbysfwrdd safonol yw £59 yr wythnos neu ran o wythnos, (i'w dalu ymlaen llaw).
Mae'n rhaid i'r awdurdod gael gwybod pan fydd y sgaffald / hysbysfwrdd yn cael ei dynnu oddi yno.
Os nad cheir trwydded neu os fethir cydymffurfio â'r amodau a nodir, gall y cwmni sy'n troseddu fod yn agored i erlyniad.
Bydd unrhyw sgaffald /hysbysfwrdd (sydd wedi'i osod yn anghyfreithlon neu fel arall) y tybir ei fod yn beryglus yn ôl yr awdurdod yn cael ei symud a'i storio, roddir gwybod i'r cwmni perthnasol ac ail-godir tâl. Bydd unrhyw sgaffald / hysbysfwrdd nad yw'n cydymffurfio â'r uchod neu os ydyw ar y Briffordd heb drwydded, caiff ei ystyried yn anghyfreithlon. Mewn amgylchiadau o’r fath, codir tâl cychwynnol o £195 ar gyfer y ffi am beidio â chydymffurfio â’r polisi hwn. Os ystyrir yn briodol gan yr Awdurdod Priffyrdd, bydd ffi o £160 hefyd yn daladwy. Fodd bynnag, gallai'r gost hon gynyddu'n sylweddol yn ôl maint y strwythur y mae angen ei symud. Bydd yr awdurdod yn adennill yr holl gostau rhesymol sy'n gysylltiedig â hyn.
Dylid nodi bod methiant i gael trwydded berthnasol a diweddar yn golygu y bydd y sgaffald/hysbysfwrdd yn cael ei drin yn sgaffald/hysbysfwrdd anghyfreithlon (os bydd yn ymddangos ar Briffordd). Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd hyn golygu y bydd eich yswiriant yn ddi-rym.
Amodau Cymeradwyo
- Rhaid i chi indemnio'r Cyngor Bwrdeistref yn erbyn pob hawliad, waeth sut yr achoswyd, neu sy'n deillio o neu y gellir ei briodoli i osod y sgaffald/hysbysfwrdd a gwaith arall sydd i'w wneud, a dylech yswirio mewn perthynas ag atebolrwydd a nodir dan yr amodau
- Rhaid i'r sgaffald/hysbysfwrdd ddangos enw'r perchennog yn glir yn ogystal â'i enw/ cyfeiriad a rhif ffôn 24 awr.
- Rhaid i chi rhoi digon o rybudd i arolygydd y briffordd ynghylch eich bwriad i ddechrau ar eich gwaith
- Rhaid codi’r sgaffald yn y fath ffordd sy’n creu’r rhwystr lleiaf yn fertigol gydag isafswm o 2.1 metr o uchder ac o leiaf 300mm o linell y cwrbyn
- Rhaid cadw ‘Ffordd Dramwy’ i gerddwyr ar hyd y llwybr troed dan sylw ac ni ddylid gadael offer na deunyddiau adeiladu a allai beryglu neu greu rhwystr i’r sawl sydd ar droed.
- Rhaid i’r strwythur cyfan gael ei ddiogelu gan lampau rhybudd drwy gydol y cyfnod pan fydd hi’n dywyll
- Mi fydd, wrth gwrs, angen i chi ddatgysylltu’r sgaffald/hysbysfwrdd cyn gynted ag y bo modd ac adfer y llwybr troed os bu niwed iddo, i’r safon a gymeradwyir gan yr Arolygwr NRASWA, neu swyddog arall yn fy adran.
Nid oes copïau gwag o drwyddedau ar gael. Rhaid i’r cwmni gysylltu â’r awdurdod er mwyn cael y drwydded. Gallwch wneud cais am Drwydded Sgaffald/Hysbysfwrdd ar lein yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/04/2024
Nôl i’r Brig