Cyrbau Isel i Gerbydau Groesi

Mae angen caniatâd gan yr Awdurdod Priffyrdd cyn cwblhau unrhyw waith i adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, a chwrbyn isel i’ch galluogi i barcio yn eich eiddo; hefyd i ymestyn man croesi ar droed ac i gerbydau.

Nid oes angen llenwi ffurflenni cais. Dylid anfon cais ysgrifenedig am ganiatâd i adeiladu man croesi ar droed ac i gerbydau, naill ai drwy e-bostio highwaysdevelopmentcontrol@torfaen.gov.uk neu ar ffurf llythyr i’r Adran Rheoli Datblygu Priffyrdd, Gwasanaethau Cymdogaeth, Ty Blaen Torfaen, Panteg Way, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl NP4 0LS. Dylai’r cais gynnwys manylion y cynnig. Nid oes cost i wneud cais, ond nid yw’r Cyngor yn trefnu nac yn talu am y gwaith hwn.

Yna, bydd angen cynnal archwiliad ar y safle i sicrhau na fyddai’n niweidiol o safbwynt y briffordd (ni fyddai angen i chi fod yn bresennol). Yn dilyn hyn, fe gewch llythyr yn rhoi gwybod beth yw’r penderfyniad. Pe byddech yn cael caniatâd, mi fydd yn ddilys am 5 mlynedd o ddyddiad y llythyr neu am gyfnod y caniatâd cynllunio, a bod angen. Os na bydd y groesfan yn cael ei hadeiladu o fewn y cyfnod o 5 mlynedd bydd angen i chi ailymgeisio am ganiatâd.

Rhaid i Gontractwr y cymeradwywyd ei delerau, ac sydd ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chanddo drwydded i weithio ar y briffordd, gwblhau unrhyw waith ar y briffordd. Bydd rhestr o Gontractwyr ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd a rhoddir. Nid yw’r Cyngor yn trefnu nac yn talu am waith fydd yn cael ei gwblhau a rhaid i un neu fwy o’r Contractwyr sydd ar y rhestr, ddarparu amcangyfrif o gost y gwaith i chi.

Ni fydd unrhyw ganiatâd gan yr Awdurdod Priffordd yn eich rhyddhau o’ch dyletswyddau dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, gweler y Nodyn Hysbysu isod a ddarparwyd gan yr Adran Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd.

Nodyn Hysbysu gan yr Adran Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd

Mae angen caniatâd cynllunio i drefnu, gosod ac adeiladu mynedfa sy’n ymuno â chefnffordd neu ffordd ddosbarthiadol. Os nad yw’r heol yn gefnffordd neu’n ffordd ddosbarthiadol, mae’n bosib y bydd angen caniatâd cynllunio yn amodol ar bwrpas y fynedfa, p’un ai fyddai’n croesi tir rhyngol, p’un ai yw’r gwaith yn galw am godi neu ostwng lefelau’r tir a’r arwynebedd. Mae’n bosib y bydd hefyd angen caniatâd cynllunio i adeiladu unrhyw lôn arfaethedig i’r cartref/llawr caled. Fe’ch cynghorir o ddifri i beidio â bwrw ymlaen ag unrhyw waith heb i chi ofyn a oes angen caniatâd cynllunio.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio i greu mynedfa neu adeiladu lôn i’r cartref/llawr caled gallwch gyflwyno cais am dystysgrif datblygu cyfreithlon i gael penderfyniad a oes angen caniatâd cynllunio. Mae’r ffurflenni cais ar gael drwy ein ffonio ar 01633 648009/648095, e-bostio planning@torfaen.gov.uk neu drwy ymweld â’r ardal Caniatâd Cynllunio ar y wefan. 

Mae arweiniad anffurfiol ar ddatblygu i ddeiliaid cartrefi ar gael ar www.planningportal.gov.uk a gov.wales

Diwygiwyd Diwethaf: 03/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Datblygu Priffyrdd

Ebost: highwaysdevelopmentcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig