Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus

Gellir dargyfeirio, diddymu neu greu hawliau tramwy cyhoeddus trwy Orchmynion Llwybrau Cyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 neu Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae gan y Cyngor bŵer (dewisol) i wneud Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus (ond nid oes dyletswydd arnynt i wneud hynny). Gwneir y gorchmynion unwaith y bydd y Cyngor yn fodlon ei fod er budd y cyhoedd, y perchennog, y prydlesai neu feddiannydd y tir, a bod modd cynnal profion cyfreithiol perthnasol. Gwneir y Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus o dan Adrannau 25, 118 neu 119 Deddf Priffyrdd 1980.

Mae Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus a wneir gan y Cyngor o dan adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cyfrannu at newidiadau i hawliau tramwy cyhoeddus trwy alluogi gweithredu caniatâd cynllunio.

Isod, amlinellir y broses ar gyfer gorchmynion llwybrau cyhoeddus:

  1. Ymgeisio
  2. Ymgynghori
  3. Penderfyniad y Prif Swyddog
  4. Os caiff ei gymeradwyo, gwneir gorchymyn a'i hysbysebu
  5. Cyfnod gwrthwynebu (28 diwrnod o ddyddiad yr hysbyseb)
  6. Cadarnhau a hysbysebu gorchmynion diwrthwynebiad, anfon gorchmynion a wrthwynebir at Lywodraeth Cymru i gael penderfyniad

Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus Cyfredol

Diwygiwyd Diwethaf: 30/01/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200
Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig