Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf


Prif flaenoriaeth ein gwasanaeth cynnal a chadw'r gaeaf yw gwneud ein prif ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio gan y cyhoedd. Rydym hefyd yn anelu i leihau oedi ac effeithiau economaidd dilynol tywydd gaeafol.

Y gwasanaeth cynnal a chadw'r gaeaf rydym yn darparu

Rydym yn cynnal y gweithgareddau cynnal a chadw'r gaeaf canlynol ar ein ffyrdd:

  • Graeanu o flaen llaw er mwyn helpu atal rhew rhag ffurfio
  • Graenu er mwyn toddi iâ ac eira sydd wedi ffurfio eisoes
  • Aredig eira i symud eira
  • Cynnal a chadw biniau halen

Graeanu

Mae tua 53 y cant o gyfanswm y rhwydwaith ffyrdd a fabwysiadwyd yn Nhorfaen yn cael ei graeanu o flaen llaw fel rhagofal pan ragwelir rhew ac eira. Cyfeirir at y ffyrdd blaenoriaeth yma fel ein rhwydwaith diffiniedig. Mae ein rhwydwaith diffiniedig yn cynnwys:

  • Holl ffyrdd ‘A’ a ‘B’
  • Safleoedd lleol o risg uchel a llwybrau mynediad pwysig
  • Ardaloedd siopa mawr yng nghanol trefi ar wahân i Gwmbrân, sy'n eiddo preifat
  • Palmentydd sy’n cael eu defnyddio llawer pan maent wedi eu gorchuddio ag eira a rhew

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech, nid oes modd i gadw ffyrdd Torfaen yn hollol rydd o iâ. Gall glaw neu ddŵr ar y ddaear rhewi ar unrhyw adeg o'r dydd. Gall eira gywasgu a gwneud ffyrdd yn beryglus i yrru arnynt. Mae graeanu ar ôl tywydd gwael yn digwydd er mwyn toddi rhew ar y ffyrdd..

Pan rydym yn graeanu

Bydd y penderfyniad ynghylch p'un ai i raeanu neu beidio yn seiliedig ar fonitro a rhagolygon arbenigol sy’n cael eu diweddaru'n rheolaidd gan y Swyddfa Dywydd. Mae'r penderfyniad o b'un ai i roi halen ar y ffyrdd yn seiliedig ar dymheredd wynebau’r ffyrdd ac nid tymheredd yr aer y tu allan. Dyma pam efallai rhai boreau bydd eich car wedi rhewi ond ni fydd y ffyrdd wedi eu graeanu.

Ceir y penderfyniad i roi halen ar y ffyrdd ei wneud pan:

  • fydd y ffyrdd yn wlyb a rhagwelir tymheredd y ffyrdd i fod ar neu o dan y rhewbwynt;
  • ragwelir eira. Mae hyn er mwyn helpu atal yr eira rhag setlo, ac mewn achosion o'r fath, bydd graeanu fel arfer yn digwydd cyn rhewi. Fodd bynnag, gall glaw weithiau oedi’r driniaeth ac efallai bydd y ffyrdd yn rhewi cyn ein bod yn gallu rhoi halen arnynt. Gall Eira ddisgyn ar ffyrdd sydd wedi'u graeanu, ond mae’r ffyrdd hyn yn gofyn am y camau traffig i ysgogi priodweddau toddi'r halen.

Yr hyn na allwn ei wneud

  • Weithiau, er gwaethaf ein hymdrechion gorau i gadw ein ffyrdd a phalmentydd yn rhydd o rew ac eira, nid yw hyn bob amser yn bosibl.
  • Ni allwn roi halen ar ein ffyrdd i gyd, gan y byddai hyn yn dasg enfawr a chostus. Nid yw isffyrdd yn cael eu trin oni bai bod amodau yn ddifrifol iawn. I gynorthwyo gyda hyn rydym yn darparu biniau halen ar ochr ffyrdd ac awgrymiadau er mwyn galluogi mannau trafferthus lleol ar isffyrdd i gael eu trin ar sail hunan -gymorth.
  • Nid ydym yn trin llwybrau troed ac eithrio mewn amodau rhew/eira difrifol neu hirfaith iawn pryd y bydd ardaloedd siopa mawr a lleoliadau prysur i gerddwyr yn cael eu trin.

Clirio Eira

Mae eira dros 50mm o ddyfnder yn cael ei symud gan aredig. Ymgymerir Aredig yn nhrefn blaenoriaeth; gan ddechrau ar y rhwydwaith diffiniedig. Bydd o leiaf un prif lwybr mynediad i drefi a phentrefi mawr yn cael ei wneud yn "agored â gofal ", cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ar ôl i eira syrthio.

Rhagolygon Tywydd

Er mwyn bod y mwyaf effeithiol, dylai'r driniaeth gael ei ledaenu cyn bod iâ yn ffurfio neu eira yn setlo. Mae rhagweld yr amodau hyn, ac ymateb iddynt yn gywir, yn dibynnu ar gymysgedd o wybodaeth leol a phrofiad, rhagolygon tywydd lleol da ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr ffordd bresennol e.e. a yw'n gwlyb, sych, wedi trin yn flaenorol ac ati.

Mae'r Cyngor yn derbyn dau ragolwg tywydd bob dydd - rhagolwg 24 awr a rhagolwg 2 i 5 diwrnod. Mae'r rhagolwg 24 awr yn cael ei ddiweddaru os oes unrhyw newidiadau. Yn ogystal â hyn, mae crynodeb bore yn cael ei anfon gan y Swyddfa Dywydd. Rydym hefyd yn dibynnu ar ddiweddariadau rheolaidd o orsafoedd tywydd sydd wedi eu lleoli'n strategol o amgylch y fwrdeistref.

Sut mae ein gwasanaeth cynnal a chadw y gaeaf yn cael ei drefnu

Mae cerbydau graeanu fel arfer ar y ffyrdd o fawn un awr o gael ein hysbysu ac mae graeanu wedi ei gwblhau o fewn tair awr.  

Nodwch mae’r Asiantaeth Priffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd.

Llwybrau Graeanu

Defnyddiwch ein system mapio i ddod o hyd i'r llwybrau graeanu a biniau graean yn eich ardal.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highway Networks

Ffôn: 01495 766747

Nôl i’r Brig