Rhestr Wirio Gyrru'n y Gaeaf

Gall tywydd gwael ddigwydd yn sydyn, felly nid yw'n syndod bod y nifer o geir sydd angen cymorth yn cynyddu dros gyfnod y gaeaf.

Felly, er mwyn bod cam ar y blaen a sicrhau bod torri lawr yn ystod y gaeaf yn ddigwyddiad prin, dyma restr wirio i’r gyrrwr:

O dan y fonet

Gwrthrewydd

  • Mewn tywydd oer mae gwrthrewydd yn hanfodol i amddiffyn eich car rhag niwed gan rew. Mae’n bwysig bod cymysgedd o ddŵr a gwrthrewydd y cryfder cywir yn cael ei ddefnyddio oherwydd gall gwrthrewydd heb ddŵr droi mewn i slwtsh pan mae’n oer iawn. Argymhellir cymysgedd 50/50 o ddŵr a gwrthrewydd.

Olew a Dŵr

  • Gwiriwch lefelau’r olew a’r dŵr yn rheolaidd, gan gyfeirio at lawlyfr y gwneuthurwr
  • Cadwch fotel o ddŵr yn y car i ychwanegu at eich golchwr ffenestr flaen mewn argyfwng; mae'n drosedd i yrru gyda golchwr ffenestr flaen wag.

Y Tu Allan

Goleuadau

  • Gwiriwch fod yr holl oleuadau yn gweithio'n iawn. Newidiwch fylbiau sydd wedi diffodd a chofiwch lanhau budreddi’r ffordd oddi ar yr holl lensys wrth olchi’r car.
  • Gwiriwch eich lampau niwl blaen a chefn hefyd; cofiwch dylai'r rhain ond gael eu defnyddio pan fydd y gwelededd yn cael ei ostwng i tua 100 metr a’u diffodd pan fydd y gwelededd yn gwella.
  • Gallwch wirio goleuadau brecio heb gymorth trwy weld os ydynt yn goleuo wal neu  ddrws garej.
  • Profwch eich corn.
  • Dylai rhifai cerbydau fod yn weladwy o’r blaen a’r cefn.

Teiars

  • Archwiliwch eich teiars am arwyddion eu bod wedi treulio yn anwastad ac am unrhyw doriadau neu rigolau bach yn ochr y teiars.
  • Gwiriwch bwysedd y teiars a thrwch y gwadn - o leiaf 1.6mm dros o leiaf dri chwarter led y gwadn yw'r gofyniad cyfreithiol presennol, ond dylid eu disodli ymhell cyn hynny.

Brêc

  • Dyma’r amser i gael eich brêc wedi eu gwirio gan rywun proffesiynol.

Ffenestr flaen

  • Gwiriwch fod sychwyr ffenestri blaen a chefn heb eu treulio na’u niweidio. Os ydynt yn gadael staen ar eich ffenestr flaen, mae’n bryd i chi gael rhai newydd.
  • Bydd sychwyr ffenestri blaen sydd wedi hollti, cracio neu dreulio yn arwain at fethiant prawf MOT ac yn eich rhoi chi ac eraill mewn perygl.
  • Glanhewch y ffenestri, y tu mewn a'r tu allan, a sychwch lensys y lympiau a drychau’r drysau.
  • Cadwch ddadrewydd a theclyn crafu addas yn y car.  Gall dadrewydd hefyd gael ei ddefnyddio i ddadmer drysau a chloeon cap petrol.

Y Tu Mewn

Ategolion

  • Ydych chi wedi cofio rhoi eich cerdyn brys yn eich pwrs , waled neu fag? Ydy’r rhif wedi ei storio yn eich ffôn?
  • Dylech gario rhai pethau rhag ofn. Mae menig, blanced, rhaw fach, tortsh ac arian yn hanfodol.
  • Dylech ystyried cario ffôn symudol gyda chi. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru'n llawn a bod ganddo ddigon o gredyd cyn i chi gychwyn. Cadwch mewn cof bod y gyfraith wedi gwahardd defnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhwydweithiau Priffyrdd

Ffôn: 01495 766747

Nôl i’r Brig