Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Yn ddiweddar, cymeradwyodd y cyngor Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n golygu:
- byddwn yn cofnodi ac yn adrodd sut y byddwn yn rheoli ein hasedau priffyrdd
- byddwn yn ymrwymo i sefydlu safonau fforddiadwy o fewn ein cyllidebau cyfredol a gytunwyd arnynt.
- byddwn yn cyfathrebu â'r cyhoedd ynglŷn â pha wasanaeth asedau priffyrdd i'w ddisgwyl
Bydd gweithredu'r HAMP yn cefnogi:
- yr angen i reoli pwysau cyllidebol
- nodau Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2016-2021
Nodwch: Roedd yr HAMP yn ymwneud â rhwymedigaethau'r cyngor fel Awdurdod Priffyrdd yn unig ac felly, dim ond yr asedau’r briffordd gyhoeddus a fabwysiadwyd sydd wedi eu cynnwys. Nid yw strydoedd preifat a ffyrdd a drosglwyddwyd i landlordiaid cymdeithasol yn cael eu cynnwys. Mae elfennau o’r briffordd fabwysiedig ar gael ar wefan y Cyngor.
Lawr lwythwch gopi o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2019-2025 yma (Saesneg yn unig).
Lawr lwythwch gopi o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2019-2025 - Crynodeb Gweithredol yma.
Diffiniadau
Diffinnir ased priffyrdd fel unrhyw strwythur, system, adeiladwaith neu dir sy'n gysylltiedig â'r briffordd fabwysiedig.
Diffinnir rheoli asedau priffyrdd fel:
- Dull strategol sy'n nodi'r ffordd orau o ddyrannu adnoddau i weithredu, rheoli, gwarchod a gwella'r seilwaith priffyrdd heddiw ac yn y dyfodol
- Ffordd brofedig i ddangos rheolaeth effeithiol o'r rhwydwaith priffyrdd trwy ddarparu dealltwriaeth ariannol sylweddol
Diwygiwyd Diwethaf: 12/07/2019
Nôl i’r Brig