Bysedd pysgod eog gyda lletemau tatws a ffa pob

Salmon fish fingers with potato wedges and baked beans

Pam i ni ddewis y pryd bwyd yma

Dewis ein Disgyblion

"Dyma fy newis i achos ei fod yn flasus" Alicia, Ysgol Gynradd Blenheim Rd

"Rwyf wir yn hoffi hwn, mae’n blasu’n dda iawn" Carys, Padre Pio

"Rwy’n hoffi’r pysgodyn achos bod y tu allan yn grensiog" Noah, Padre Pio

Dewis ein Dietegydd

"Mae pysgod yn fwyd protein uchel, braster isel ac yn ffynhonnell dda o fitaminau a mwynau. Am y rheswm hwn, rydym yn cael ei hargymell i fwyta 2 ddogn o bysgod bob wythnos, a dylai un ohonynt fod yn olewaidd. Mae cinio ysgol yn helpu ein disgyblion i gyrraedd y targed yma drwy gynnwys pysgod ar y fwydlen pob wythnos.

Mae pysgod sy’n gyfoethog mewn olew, fel eog, yn llawn Omega 3. Mae Omega 3 yn dod o’r gangen o “fraster iachach” sy’n hanfodol yn ein diet a gall helpu i amddiffyn y galon a’r llestri gwaed rhag afiechyd. Yn ychwanegol at Omega 3, mae pysgod olewaidd yn ffynhonnell dda o Fitamin A a D, a phrotein.

Rydym yn deall efallai bod rhai plant nad ydynt wedi arfer gyda blas pysgod olewaidd, ac felly rydym wedi dewis bysedd pysgod eog, gan fod eog yn ysgafnach ei flas na rhai pysgod olewaidd eraill, a chan fod bysedd pysgod yn fwyd cyfarwydd. Nid yw’r rhan fwyaf o blant yn sylweddoli bod y pysgodyn hwn yn wahanol i’r hyn y maent wedi arfer gydag o.

Mae ein bysedd pysgod ni mewn briwsion yn hytrach na chytew ac yn cael eu coginio yn y popty ar y safle i dorri i lawr ar y braster. Fel bob amser, gweinir 2 ddogn o lysiau i’w gwneud yn haws i gyrraedd y targed 5 y dydd. At hyn, fel rhan o’n hymrwymiad i’n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydym ond yn defnyddio pysgod sydd wedi eu hardystio gan yr MSC, felly mae disgyblion yn gallu mwynhau eu cinio gan wybod eu bod yn helpu i amddiffyn ein moroedd, bywoliaeth a stoc bysgod y dyfodol."

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon