Byrger cyw iâr mewn bynsen gyda sglodion a salad

Chicken burger in a bun with chips and salad

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Dietegydd

"Mae’r byrgyrs cyw iâr hyn sydd wedi eu hachredu gan gynllun Tractor Coch y DU wedi’u gorchuddio â briwsion bara, ac nid cytew. Wrth gwrs, fel ein sglodion, mae ein byrgyrs cyw iâr yn cael eu pobi yn y ffwrn er mwyn cyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Mae ein rholiau wedi eu gwneud â blawd gwyn (ac wedi eu hatgyfnerthu gyda haearn yn y DU) ac maen nhw’n ddewis da fel tamaid traddodiadol i fynd gyda’r bwyd. Caiff disgyblion eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgyrch i fwyta 5 y Dydd, a dyna pam yr ydyn ni’n gweini salad ar yr ochr.”

Ydych chi’n ddisgybl ysgol gynradd sy’n blasu’r pryd newydd hwn am y tro cyntaf?

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn. Anfonwch eich adborth i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Byddai’n braf clywed eich sylwadau. Ydy hwn yn bryd llwyddiannus neu oes eisiau i ni wneud rhagor o waith arno?

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon