Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Mae'r bil Treth y Cyngor llawn yn cymryd yn ganiataol bod dau oedolyn yn byw mewn eiddo. Os nad oes ond un oedolyn yn byw yn yr eiddo, efallai y bydd modd cael gostyngiad o 25%.

Gallai personél y lluoedd arfog fod â hawl i gael gostyngiad o 50% ar eu cartref os oes rhaid iddynt fyw mewn llety a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o ganlyniad i'w swydd ac nad oes neb yn byw yn barhaol yn eu cartref mwyach.

Os yw'r bobl sy'n byw gyda chi yn dod o fewn unrhyw un o'r categorïau canlynol, neu os dim ond un unigolyn dros 18 oed sy'n byw yn yr eiddo, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael gostyngiad o 25% ar eich bil os ydych yn bodloni'r meini prawf perthnasol. Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

  • Pobl sydd yn y carchar neu ganolfan gadw
  • Pobl sydd â nam meddyliol difrifol
  • Pobl yr ydych yn derbyn Budd-dal Plant ar eu cyfer
  • Gofalwyr (rhai mathau)
  • Pobl sy'n byw mewn hostel
  • Myfyrwyr, prentisiaid, hyfforddeion ifanc a nyrsys dan hyfforddiant
  • Pobl sy'n byw mewn cartref gofal neu gartref nyrsio yn barhaol
  • Pobl sydd yn yr ysbyty yn barhaol
  • Unigolion nad ydynt yn Brydeinig sy'n briod â myfyriwr
  • Y rhai sydd wedi gadael yr ysgol
  • Cymunedau Crefyddol
  • Pobl sy’n gadael gofal hyd at eu penblwydd yn 25 oed

Sylwer - Os yw eich cais am ostyngiad yn llwyddiannus ac os ydych chi'n derbyn unrhyw ddisgowntiau neu ostyngiadau eraill o ran Treth y Cyngor ar hyn o bryd, bydd eich hawl i'r rhain yn cael ei ail-gyfrifo.

Gostyngiadau ar gyfer pobl ag anableddau

Os oes gan eiddo nodweddion penodol sydd i'w defnyddio gan unigolyn anabl, mae'n bosibl y gallwn osod y dreth ar gyfer yr eiddo hwnnw ar fand is na hwnnw y cafodd ei brisio arno. Fodd bynnag, ni fyddwn yn newid y rhestr brisio ei hun.

Pwy sy'n Gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad hwn, rhaid i'r unigolyn, nad yw o reidrwydd yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor, fod yn anabl, a hynny'n sylweddol.

Mae'n rhaid bod gan yr eiddo un o'r nodweddion canlynol.

  • Ystafell heblaw am gegin, ystafell ymolchi neu doiled a ddefnyddir yn bennaf gan yr unigolyn anabl
  • Ail ystafell ymolchi neu gegin a ddarperir ar gyfer yr unigolyn anabl
  • Digon o le llawr i ganiatáu i'r unigolyn anabl ddefnyddio cadair olwyn

Gallai enghreifftiau o ystafelloedd a neilltuwyd at ddefnydd unigolyn anabl gynnwys ystafell sydd i'w defnyddio ar gyfer offer dialysis. (Mae'n rhaid bod cysylltiad achosol rhwng yr anabledd a'r rheswm pam mae angen defnyddio'r ystafell).

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig