Eithriadau'r Dreth Gyngor

Er bod pob math o eiddo yn ymddangos yn y rhestr brisio, mae'n bosibl na chodir tâl arnoch mewn rhai achosion.

Gallai eiddo fod yn eithriedig os yw un o'r canlynol yn berthnasol.

  • Fe'i meddiannir dim ond gan fyfyrwyr neu'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg.
  • Pobl dan 18 oed yn unig sy'n byw ynddynt.
  • Fe'i meddiannir dim ond gan unigolion â nam meddyliol difrifol.
  • Pobl sydd wedi gadael gofal, hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed yn unig sy’n byw ynddynt.
  • Mae'n rhandy a feddiannir dim ond gan berthynas dibynnol. Ystyrir bod perthynas yn ddibynnol os yw'n 65 oed neu'n hŷn, os oes ganddo/ganddi nam meddyliol difrifol neu os oes ganddo/ganddi anabledd sylweddol a pharhaol.

Gallai'r eiddo canlynol fod yn eithriedig am gyfnod cyfyngedig.

  • Gall eiddo sy'n wag a heb ddodrefn gael eu heithrio am hyd at chwe mis. Gellir ymestyn hyn i uchafswm o 12 mis os oes angen gwaith atgyweirio mawr / newidiadau strwythurol ar yr eiddo gwag neu os yw'r gwaith yn mynd rhagddo. Dyfernir yr eithriad o'r dyddiad y meddiannwyd yr eiddo y tro diwethaf a chyfyngir hyn i uchafswm o 12 mis p'un a fydd y perchennog neu'r sawl sy'n talu treth y cyngor yn newid.
  • Eiddo gwag sy’n eiddo i gorff elusennol am hyd at chwe mis.
  • Eiddo gwag sy’n sy’n ffurfio rhan o stad unigolyn sydd wedi marw. Gall yr eiddo gael ei eithrio am hyd at chwe mis ar ôl y grant profiant neu’r llythyrau gweinyddu.

Os ydych chi’n prynu eiddo sydd eisoes yn wag a heb ddodrefn, cysylltwch â ni i weld a yw’r eiddo dal i fod yn gymwys i gael ei eithrio.

Mae'r mathau canlynol o eiddo yn eithriedig tra eu bod yn wag.

  • Eiddo lle mae'r perchennog yn fyfyriwr a oedd yn byw yn yr eiddo ddiwethaf fel ei brif/phrif gartref.
  • Eiddo a adawyd yn wag oherwydd bod pobl yn y carchar (ac eithrio am beidio â thalu dirwy neu'r Dreth Gyngor).
  • Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sydd wedi symud i ddarparu gofal personol i unigolyn arall neu sydd wedi symud i dderbyn gofal personol.
  • Eiddo a adawyd yn wag gan fod yr unigolyn bellach yn preswylio'n barhaol mewn ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal.
  • Rhandai na ellir eu rhoi ar osod ar wahân i'r prif eiddo heb dorri amodau cynllunio.
  • Eiddo sy'n wag gan nad yw'r gyfraith yn caniatáu i neb fyw ynddo neu oherwydd bod yr eiddo'n cael ei brynu gan awdurdod cyfreithiol.
  • Eiddo lle mae'r unigolyn sy'n gyfrifol am y Dreth Gyngor yn ymddiriedolwr mewn methdaliad.
  • Ficerdai ac eiddo tebyg y bydd gweinidogion crefyddol yn byw ynddynt, a lle y byddant yn cyflawni eu dyletswyddau.
  • Eiddo a feddiannwyd gan fenthyciwr morgeisi.
  • Safle carafán neu angorfa cwch sydd heb garafán neu gwch arno.

Os ydych chi'n berchen ar un o'r mathau hyn o eiddo, ni ddylech dderbyn bil Treth Gyngor ar ei gyfer. Fodd bynnag, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch i roi gwybod i chi pa fand prisio y rhoddwyd yr eiddo ynddo a beth fyddai'r Dreth Gyngor pe na byddai'n eithriedig.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig