Gwelyau Haul a Lliw Haul

Daeth Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010  i rym ar 8 Ebrill 2011 i atal pobl dan 18 rhag defnyddio salonau gwelyau haul. Yma, gallwch lawr lwytho Cyfarwyddyd gan yr Adran Iechyd ar gyflawni eich gofynion cyfreithiol.

Bydd rhaid i weithredwyr sicrhau bod yna oruchwyliaeth briodol yn eu salonau er mwyn atal plant rhag defnyddio eu gwelyau haul. Daeth nifer o achosion i’r amlwg ar draws y wlad, lle bu plant yn defnyddio gwelyau haul â blychau arian mewn salonau a arweiniodd at losgiadau difrifol iawn. Dengys astudiaethau bod defnyddio gwelyau haul am y tro cyntaf cyn 35 oed yn cynyddu’r risg o ddatblygu melanoma o ryw 75 y cant.

Dylai salonau ddarparu gorchudd diogelwch ar gyfer y llygaid a sicrhau (hyd y gellir) ei fod yn cael ei wisgo. Dylai salonau hefyd arddangos gwybodaeth glir a manwl gywir ar iechyd, a sicrhau bod y defnyddwyr yn deall y wybodaeth yma.

Bydd rhaid i fusnesau fel canolfannau hamdden a champfeydd hefyd sicrhau bod gwelyau haul yn cael eu lleoli mewn parth dan gyfyngiadau, i arbed pobl dan 18 i gael mynediad iddynt. Er enghraifft, os oes modd cael mynediad i wely haul trwy ystafell wisgo, byddai rhaid gwahanu’r ddwy ystafell er mwyn sicrhau nad oes mynediad trwyddi i’r gwely haul.

I'ch helpu, rydym wedi llunio taflen dulliau diogel yn rhan o becyn cymorth diogelwch rhad ac am ddim i’w cwblhau gan fusnesau. Mae’r daflen hon yn cynnig arweiniad ar arfer gorau ond yn bwysicach, bydd yn eich helpu i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth

Hyfforddiant

Rhaid i chi hyfforddi eich staff ar bob agwedd o redeg y salon, yn cynnwys sut i wirio oedran eich cwsmeriaid a’r math o dystiolaeth yr ydych yn ei derbyn. Dylech gadw cofnodion o unrhyw hyfforddiant yr ydych wedi ei ddarparu i’ch staff ac ailadrodd yr hyfforddiant yn rheolaidd er mwyn cadw’r safonau yn uchel. Cofiwch fod angen hyfforddiant llawn a goruchwyliaeth ar aelodau newydd o staff.

Mae cyflwyniadau ar gyfer y sawl sydd yn berchen ar, neu’n rheoli Salonau Gwelyau Haul I’w helpu gyda’u gofynion cyfreithiol ar gael isod er mwyn i chi eu defnyddio’n rhan o’ch hyfforddiant. Os oes angen cymorth pellach arnoch cysylltwch â ni.

Adnoddau hyfforddi

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig