Gorfodi Iechyd a Diogelwch

Mae'r Tîm Gwasanaethau Masnachol yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch ar sail Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, ynghyd ag ystod eang o Reoliadau. Rydym yn gwneud hyn trwy arolygu tua 900 o safleoedd gwaith yn Nhorfaen ar raglen pum mlynedd yn seiliedig ar risg, gyda thua 300 o arolygiadau bob blwyddyn. Rydym hefyd yn ymateb i gannoedd o geisiadau gwasanaeth a hysbysiadau damweiniau bob blwyddyn.

Mae ein rôl gorfodi iechyd a diogelwch yn cynnwys:

  • Arolygu gweithleoedd
  • Ymchwilio i ddamweiniau
  • Ymchwilio i gwynion am weithleoedd
  • Trwyddedu gweithleoedd
  • Rhoi cyngor i fusnesau newydd
  • Profion asbestos

Os hoffech wybod mwy am unrhyw rai o'r pynciau hyn, cysylltwch â ni. Mae gennym ystod eang o daflenni a gwybodaeth arall.

Nid ydym yn arolygu safleoedd gweithgynhyrchu na mannau y mae'r Cyngor yn berchen arnynt; yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sydd yn eu harchwilio yn lle. Gallwch gysylltu â nhw trwy eu ffonio ar 02920 263000 (Swyddfa Caerdydd) neu drwy ymweld â'u gwefan.

Os oes angen i chi roi gwybod am ddamwain hysbysadwy, gwneir hyn nawr trwy'r Ganolfan Cyswllt Digwyddiadau. Gallwch gysylltu â nhw trwy ffonio 0845 300 9923 neu drwy'r rhyngrwyd. Dylech roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw ddamwain difrifol yn y gwaith sydd wedi arwain at anaf difrifol neu drychineb trwy gysylltu â ni ar 01633 648095, a byddwn yn rhoi cyngor i chi ynghylch y camau nesaf.

Ein cwsmer pennaf o ran y gwasanaethau hyn yw'r Llywodraeth, sy'n gofyn i ni ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn ôl y gyfraith, ac yn rhoi cyfarwyddiadau cynhwysfawr ynglŷn â sut y dylid eu darparu. Diben y gwasanaethau yw diogelu unrhyw un sy'n gweithio yn ardal Torfaen, a bydd hyn yn gyffredinol yn golygu trigolion Torfaen, er bod pobl o ardal ddaearyddol eang yn dod yma i weithio. Y cwsmeriaid mwyaf uniongyrchol yw'r rheiny sydd am gwyno neu wneud cais am wasanaethau ac, wrth gwrs, y busnesau y mae ein camau gorfodi yn effeithio arnynt.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am iechyd a diogelwch, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am wybodaeth a chyngor.

Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu ailwampio, efallai y bydd angen i chi hysbysu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), ac efallai y bydd gennych ddyletswyddau eraill hefyd - cewch ragor o wybodaeth yn www.hse.gov.uk/construction/cdm/buildingcontrol.htm

Cynllun y Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch

Erbyn hyn, rhaid i bob cyngor lleol gynhyrchu Cynllun Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch, sy'n amlinellu'r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd yn Nhorfaen sy'n cael ei gorfodi gan yr Awdurdod.

Cynllun blynyddol yw Cynllun y Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch sy'n cael ei lunio i ymateb i arweiniad gorfodol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a luniwyd dan Adran 18 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.

Mae'r Cynllun Gwasanaeth hwn yn dweud wrthych sut byddwn yn gwarchod ac yn hyrwyddo iechyd a diogelwch ledled Torfaen trwy gyfuniad o gamau, sy'n cynnwys gorfodi cyfraith iechyd a diogelwch, samplu, a chysylltu â sefydliadau eraill. Mae hefyd yn amlinellu blaenoriaethau, targedau, adnoddau a pherfformiad yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, ac yn dangos sut mae hyn yn cyd-fynd â gwaith arall sy'n cael ei wneud gan y timau sy'n cyflawni'r gwaith hwn.

Dylai'r cynllun helpu i reoli'r gwasanaeth a chynllunio perfformiad, yn ogystal â helpu i gymharu perfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill.

Credwn fod ein hymagwedd yn gweithio, gan mai ychydig iawn o ddamweiniau sy'n cael eu hadrodd i ni, ynghyd â lleied byth o ddamweiniau difrifol, a allai wneud niwed sylweddol i iechyd a lles pobl sy'n gweithio yn ardal Torfaen.

Os hoffech ddarllen Cynllun y Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch, gallwch lawrlwytho copi yma.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech wneud sylwadau am y cynllun hwn, gallwch anfon neges e-bost atom yn commercial.services@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 648095

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig