Gwybodaeth i Feithrinfeydd
Rheoli Heintiau mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
Cafwyd achosion o glefydau heintus mewn meithrinfeydd ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd yn 2011. Fe wnaeth yr achosion hyn amlygu nifer o broblemau i bawb oedd yn gysylltiedig â hwy. O ganlyniad, mae swyddogion yr awdurdod lleol wedi bod yn gweithio gydag Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Thîm Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnig arweiniad i ddarparwyr gofal plant.
O ganlyniad y fath gydweithio, datblygwyd “Offeryn Archwilio Rheoli Heintiau – Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar”. Bydd yr offeryn archwilio yn eich caniatáu i adolygu eich safle, polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â rheoli heintiau, i’ch helpu i sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau arfer gorau presennol. Yn ogystal â defnyddio’r Offeryn Archwilio fel rhan o’ch adolygiad blynyddol, efallai y gwelwch y bydd swyddogion eraill o’r awdurdod lleol ac AGGCC yn ei ddefnyddio fel rhan o’u trefn arolygu.
Mae’r cyflwyniad i’r Offeryn Archwilio yn rhoi cyngor ynglŷn â dogfennau sydd yn rhoi arweiniad, ac mae’r dogfennau isod yn cynnwys copi o’r Offeryn Archwilio yn ogystal ag amrywiaeth o ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol o ran rheoli heintiau yn eich lleoliad.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig