Dangosyddion Perfformiad
Mae gan Business Link offeryn ar-lein i helpu busnesau bach gyda chyfraith iechyd a diogelwch.
Gall arfer iechyd a diogelwch da gael effaith gadarnhaol ar eich hawliadau yswiriant ac mae hefyd yn gwella'ch enw da ymhlith cwsmeriaid, y gymuned leol a'ch gweithwyr.
Offeryn Hunanasesu Ar-lein
Diben yr offeryn hunanasesu yw mesur pa mor dda yr ydych yn delio â materion iechyd a diogelwch a bydd:
- yn eich helpu i ddeall i ba raddau yr ydych yn canfod ac yn rheoli peryglon iechyd a diogelwch;
- yn darparu arweiniad wedi ei dargedu ar eich cyfer i'ch helpu i wella'ch dulliau rheoli iechyd a diogelwch; ac
- yn eich galluogi i gymharu'ch perfformiad â busnesau eraill ar draws sectorau ac o wahanol feintiau, a hynny'n ddienw.
Ei ddiben yw helpu i sicrhau bod premiymau Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr yn adlewyrchu cofnod iechyd a diogelwch busnesau.
Dylai'r dangosydd gymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Mae'n gweithio trwy ofyn cyfres o gwestiynau am y 10 perygl allweddol y mae'r rhan fwyaf o fusnesau bach i ganolig yn eu hwynebu a pha mor aml y mae'r damweiniau neu'r achosion hyn yn digwydd. Mae sgôr allan o 10 yn cael ei gyfrifo i bob un - gyda 10 yn cynrychioli'r canlyniad gorau posibl a 0 yn cynrychioli'r gwaethaf.
Serch hynny, nid yw'n offeryn archwilio cynhwysfawr. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch i ystyried yr ystod gyfan o risgiau y gallai eich gweithwyr eu hwynebu yn y gwaith. Nid yw'n delio â pheryglon arbennig y mae diwydiannau penodol yn eu hwynebu.
Datblygwyd y dangosydd perfformiad gan Business Link, gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Cymdeithas Yswirwyr Prydain a Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain.
Mae ar wefan allanol ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am ei chynnwys.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig