Pecyn Cymorth Rheoli Risg

Mae'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) wedi cynhyrchu pecyn cymorth rheoli risg wedi'i lunio'n benodol ar gyfer cwmnïau bach.

Rheoli risg yn effeithiol yw'r ateb i fusnes llwyddiannus.

Ymdrin â Risgiau Busnes

Bydd pecyn cymorth IOSH yn eich helpu i ddechrau cynllunio i ymdrin yn effeithiol ag iechyd a diogelwch, ynghyd ag ystod eang o risgiau busnes eraill

Gall y pecyn cymorth helpu busnesau bach i fynd i'r afael â rheoli risgiau busnes mewn modd hawdd i'r defnyddiwr, gan ddefnyddio offer fel cardiau gwaith, rhestrau gwirio, cardiau gwybodaeth a llyfrau gwaith.

Mae'r holl ddeunyddiau ar gael i'w lawrlwytho'n rhad ac am ddim oddi ar IOSH ar ffurf dogfen PDF.

Mae'r Pecyn Cymorth Rheoli Risg ar wefan allanol ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am ei gynnwys.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/08/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig